'Cywilydd' diffyg Cymraeg ar drenau lein y Cambrian

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Ydy diffyg Cymraeg ar drenau Rheilffordd y Cambrian yn poeni teithwyr?

Mae cyngor un o drefi arfordirol Gwynedd yn dweud bod diffyg Cymraeg ar Reilffordd y Cambrian yn "gywilyddus".

Yn ôl Cyngor Tref Porthmadog, mae cyhoeddiadau ar y gwasanaeth - sy'n galw yn y dref - yn uniaith Saesneg ac mae enwau lleoedd Cymraeg yn cael eu hynganu'n anghywir.

Mae Trenau Arriva Cymru, sy'n rhedeg y trenau, yn dweud bod rhesymau technegol am ddiffyg cyhoeddiadau dwyieithog.

Fe fydd cytundeb presennol Arriva i redeg trenau Cymru a'r Gororau yn dod i ben yn 2018, gyda phedwar cwmni i gyd yn ceisio am y fasnachfraint.

'Iaith sâl iawn'

Mae Rheilffordd y Cambrian yn dilyn arfordir gorllewinol Cymru o Bwllheli hyd at Aberdyfi, cyn troi am Fachynlleth ac ymlaen trwy Bowys i'r Amwythig. Mae hefyd yn cysylltu â thref Aberystwyth.

Yn ôl Selwyn Griffiths, is-gadeirydd Cyngor Tref Porthmadog a chadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Rheilffordd y Cambrian, mae angen mwy o Gymraeg ar y gwasanaeth.

"Does dim digon o Gymraeg ar y rheilffordd yma o bell ffordd," meddai.

Image caption Dywedodd Selwyn Griffiths bod Pwyllgor Ymgynghorol Rheilffordd y Cambrian eisiau gweld amodau iaith ar y cwmni fydd yn rhedeg y rheilffyrdd yn y dyfodol

"Mae'r cyhoeddiadau weithiau yn uniaith Saesneg. Pan maen nhw yn Gymraeg, mae'r iaith yn sâl iawn, mae ynganu'r enwau Cymraeg yn sobor.

"Mae'n gywilyddus â dweud y gwir.

"Os 'dan ni'n mynd drosodd i rywle fel Ffrainc, 'dan ni'n disgwyl clywed enwau'n cael eu hynganu'n iawn, dydan?"

Image caption Mae darparu cyhoeddiadau Cymraeg ym mhobman yn "her" i Drenau Arriva Cymru, yn ôl Eryl Jones

Mae Trenau Arriva Cymru yn cydnabod y gallan nhw wneud yn well, ond yn pwysleisio'u hymrwymiad tuag at yr iaith Gymraeg.

"'Dan ni'n cydnabod efallai fod rhai o'r cyhoeddiadau ddim yn berffaith, ddim cweit yn gywir," meddai'r llefarydd, Eryl Jones.

"Mae Arriva wedi ymroddi i'r iaith - mae'n flaenoriaeth i'r cwmni ac mae'r buddsoddiad yna'n parhau."

Yn ôl y cwmni, mae'r amrywiaeth o drenau a'r system gyfrifiadurol sydd arnyn nhw yn golygu bod dim modd cael cyhoeddiadau dwyieithog ymhobman.

Dywedodd bod "dim un system fyddai'n ffitio'r trenau i gyd" a bod y sefyllfa felly "yn her i'r cwmni".

Image caption Mae Arriva a thri chwmni arall wedi gwneud cais i redeg rheilffyrdd Cymru a'r Gororau o'r flwyddyn nesaf ymlaen

Fe fydd cyhoeddiad ar ddeiliaid nesaf masnachfraint rheilffyrdd Cymru y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Mr Griffiths bod Pwyllgor Ymgynghorol Rheilffordd y Cambrian yn galw am wneud gwasanaeth dwyieithog llawn yn amod ar y cwmni fydd yn ennill yr hawl i redeg trenau'r ardal.

Yn ôl Mr Jones mae cynnwys unrhyw gytundebau yn y dyfodol yn fater yn y pen draw i Lywodraeth Cymru.

Pynciau Cysylltiedig