Mwy na 100 o eglwysi wedi cau mewn degawd yng Nghymru

Eglwys Image copyright Eirian Evans/Geograph
Image caption Mae Eglwys Santes Mair Magdalen yn Llanfaglan, Gwynedd yn un adeilad sydd ar werth

Mae mwy na 10 Eglwys Anglicanaidd yn cau yn flynyddol yng Nghymru yn ôl ffigyrau gan yr Eglwys yng Nghymru.

Mae'r ffigyrau yn dangos bod 115 o eglwysi wedi cau mewn degawd sy'n 8% o'r cyfanswm, gyda 1,319 dan yn cael eu defnyddio.

Ar hyn o bryd mae 11 eiddo ar werth ar safle we'r eglwys.

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi dweud bod cau'r eglwysi yn "broblem sylweddol" ac er bod y gyfradd wedi aros yn gyson, mae'n annhebygol o arafu.

Dywedodd pennaeth eiddo'r Eglwys, Alex Glanville bod cynlluniau i gymryd golwg rhanbarthol ar eglwysi yn hytrach na gadael iddyn nhw ymdopi â'r sefyllfa ar eu pennau ei hunain.

'Addolwyr newydd'

"Rydym yn grwpio llawer mwy o blwyfi gyda'i gilydd, tua 10-15 eglwys mewn ardal a meddwl pa rai allwn eu cynnal.

"Mae ychydig mwy o strategaeth, beth yw plwyf canhwyllydd a ble yw'r lleoliad gorau i wneud hynny," meddai.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Eglwysi Cenedlaethol bod cyfradd cau yng Nghymru ychydig yn uwch na Lloegr, gan gymryd nifer y boblogaeth i ystyriaeth ble mae 20 eglwys yn cau yn flynyddol.

Ychwanegodd Mr Glanville mai un o'r problemau yng Nghymru yw bod nifer o'r adeiladau mewn cymunedau bychain, mewn "llefydd anghysbell" a chynulleidfaoedd eglwysi yn lleihau.

"Tydi cynulleidfa fach ddim yn golygu bydd eglwys yn cau. Mae pobl yn meddwl am nifer o ffyrdd i ddefnyddio'r eglwys yn y gymuned," meddai.

Image copyright Dylan Moore/Geograph
Image caption Mae Eglwys San Tomos Becket yn Hwlffordd yn un o 11 adeilad gwag sy'n cael ei gwerthu

Mewn arolwg diweddar gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Cenedlaethol ar gyfer addoldai yng Nghymru, gan gynnwys enwadau anghydffurfiol, eglwysi Catholig ac eiddo'r Eglwys yng Nghymru, dywedwyd mai'r broblem fwyaf oedd yn eu hwynebu oedd ceisio cynyddu cynulleidfaoedd a denu addolwyr newydd.

Fe wnaethon nhw nodi bod denu mwy o bobl i'r adeilad a chyflwyno cyfleusterau newydd yn rhan allweddol i geisio eu helpu i aros yn agored.

Dywedodd pennaeth cyfathrebu'r ymddiriedolaeth, Eddie Tulasiewicz, ei fod yn credu bod capeli yn cau ar gyfradd o tua un yr wythnos, ond roedd nifer yr enwadau yn ei gwneud hi'n anodd bod yn fanwl gywir.

'Dan fygythiad'

Dywedodd fod dyfodol adeiladau dan fygythiad yn dibynnu ar ffactorau gan gynnwys lleoliad a maint y boblogaeth, ond dywedodd nad oedd "dyfodol ar gyfer rhai adeiladau".

"Mae'r hyn a godwyd yn y 19eg Ganrif ar gyfer poblogaeth o 6,000 i 10,000 o bobl wedi gostwng i 2,000 neu 3,000 a does neb ar ôl i fynd yno.

"Y peth yw ceisio meddwl am yr hyn y gellir ei wneud gyda'r adeiladau y tu allan i ddibenion crefyddol. Gallant gynnal cyfarfodydd a chyngherddau.

"Y peth arall yw hanes a thwristiaeth. Mae llawer o eglwysi a chapeli yn hynod o brydferth ac mae pobl eisiau ymweld â nhw."

Mae Ymddiriedolaeth Eglwysi Cenedlaethol ymysg y cyrff sy'n rhoi grantiau i helpu prosiectau adnewyddu, ac maent wedi buddsoddi £500,000 yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Pynciau Cysylltiedig