Ulster 52-25 Dreigiau

Ulster face the Dragons at Kingspan Stadium Image copyright ©INPHO/Presseye/Brian Little

Fe gollodd y Dreigiau yn drwm wrth i Ulster sgorio wyth cais yn Belfast nos Wener.

Cafodd Nick Timoney ddau gais, gydag un yr un i Stuart McCloskey, Peter Nelson, Wiehahn Herbst, Jacob Stockdale, David Shanahan - ynghyd ag un cais cosb.

Fe sgoriodd y Dreigiau dri chais eu hunain, gyda'r eilyddion Rhys Buckley, Dane Blacker a Will Talbot-Davies yn sgorio.

Mae'r canlyniad yn gadael y Dreigiau yn chweched yn Adran B cynghrair y Pro 14, gydag un fuddugoliaeth o'r pedair gêm agoriadol.

Pynciau Cysylltiedig