Cyhoeddi enw dynes fu farw wedi gwrthdrawiad A470

A470 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng carafán a beic modur ar Bont Marteg rhwng Rhaeadr a Llangurig ddydd Sadwrn.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw dynes fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd ym Mhowys ddydd Sadwrn.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng fan Mercedes du a beic modur Suzuki ar yr A470 rhwng Rhaeadr a Llangurig am tua 12:35 ddydd Sadwrn.

Bu farw gyrrwr y beic modur, Rachel Spandler-Parsons, oedd yn 44 oed ac yn wreiddiol o ardal Banbury, wedi'r digwyddiad.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101.

Straeon perthnasol