Galw am adolygiad o ddiffyg y Gymraeg mewn theatrau

Clwyd a Sherman
Image caption Mae theatrau Clwyd a Sherman yn dweud eu bod wedi ymrwymo i ddatblygu eu gwaith yn yr iaith Gymraeg

Mae angen i Gyngor y Celfyddydau gynnal adolygiad o sut mae'r iaith Gymraeg yn cael ei chefnogi yn y byd theatr yng Nghymru, yn ôl un sy'n gweithio yn y maes.

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Cymru Undeb Awduron Prydain, Manon Eames, wrth raglen y Post Cyntaf y dylai'r adolygiad gael ei gynnal er mwyn edrych ar y "diffyg darpariaeth Gymraeg i sgriptwyr a dramodwyr y wlad" a'r diffyg cyfleoedd i dalent yng Nghymru.

Daw ei sylwadau ar ôl i berson di-gymraeg o Loegr gael ei benodi'n Gyfarwyddwr Cyswllt newydd Theatr Sherman a phryderon hefyd nad yw Theatr Clwyd yn cynnig digon o gynyrchiadau yn y Gymraeg.

Mae'r ddwy theatr yn dweud eu bod wedi ymrwymo i ddatblygu eu gwaith yn yr iaith Gymraeg, tra bod Cyngor y Celfyddydau yn dweud eu bod yn "disgwyl gweld ymdriniaeth glir ac ystyrlon" o'r iaith.

Yn trafod Theatr Clwyd, dywedodd yr actor Ifan Huw Dafydd: "Mae'r actorion o Lundain, mae'r castio yn cael ei wneud yn Llundain ac maen nhw wedi bod yn ymarfer yn Llundain.

"Arian cyhoeddus yw arian Cyngor y Celfyddydau ac arian i hybu talent yng Nghymru. Pam felly fod angen gwario'r arian yma yn Llundain?"

Galw am adolygiad

Ychwanegodd Ms Eames wrth BBC Radio Cymru: "Dwi'n meddwl ein bod angen atebion clir.

"Falle bod hi'n amser i Gyngor y Celfyddydau wneud rhyw fath o adolygiad o beth yw dyfodol y gwaith yn yr iaith Gymraeg.

"Sut maen nhw'n mynd i feithrin o? Sut maen nhw yn mynd i gynnal awduron sydd yn 'sgwennu yn y Gymraeg neu yn ceisio gwneud bywoliaeth trwy ysgrifennu yn y Gymraeg ar gyfer y theatr?

"Da ni angen atebolrwydd a gwybod beth yw'r cynllun."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae sefydliadau theatrig ag "agwedd sydd ddim yn dderbyniol", yn ôl Manon Eames

Dywedodd Theatr Clwyd eu bod wedi treulio llawer mwy o amser y tu allan i Gymru dan eu rheolaeth bresennol - 755 o wythnosau actio o'i gymharu â 191 wythnos dan y cyfarwyddwyr blaenorol.

Mae hyn oherwydd bod mwy o sioeau yn cael eu llwyfannu ar y cyd â chwmnïau eraill a bod y sioeau yn teithio o amgylch y DU, meddai llefarydd.

Ychwanegodd bod y theatr wedi gwneud "newidiadau mawr dros y ddwy flynedd diwethaf ac mae hyn wedi arwain at fwy o waith yn ein cymuned, yn yr iaith Gymraeg a gyda phartneriaid ar draws Cymru a gweddill y DU.

"Rydyn ni wedi ymrwymo, ac yn angerddol am weithio gyda thalent Gymreig, a datblygu artistiaid Cymreig ar gyfer y dyfodol - yn y Gymraeg a'r Saesneg.

"Rydyn ni'n llawn ymwybodol o'r mannau ble mae'n rhaid i ni wella ac yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y drafodaeth genedlaethol am sut i sicrhau bod cronfa ehangach o grewyr theatr talentog o Gymru, yn y ddwy iaith, yn bodoli ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Pedair drama Gymraeg

Dywedodd cyn-gyfarwyddwr artistig Theatr Sherman, Mared Bryn ei bod yn bryderus am y ffaith nad yw cyfarwyddwr cyswllt newydd y theatr yn siarad Cymraeg.

Doedd hyn ddim yn angenrheidiol yn y swydd ddisgrifiad, er bod disgwyl iddynt ddatblygu dramâu Cymraeg ac arwain ar gynyrchiadau'r Eisteddfod.

"Mae angen anogaeth, mae angen y gefnogaeth yna gan ein cwmnïau theatr ni er mwyn meithrin talent ar gyfer y dyfodol," meddai Ms Bryn.

"Ac os ydy'r cwmni yn addo bod nhw yn gwneud hynny ond wedyn yn penodi rhywun sydd ddim yn gallu darllen Cymraeg yn y rôl, yna mae e'n rhoi neges glir i'r gymuned bod e ddim yn rhywbeth maen nhw'n teimlo yn gryf amdano fe."

Ers 2013, pedair drama Gymraeg sydd wedi'u comisiynu gan Theatr Sherman, o'i gymharu â 15 Saesneg ac un ddwyieithog.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dywedodd Mared Bryn bod angen staff sy'n gallu'r Gymraeg i ddatblygu talent o Gymru

Dywedodd y theatr eu bod yn "gweithio gyda phwll eang o dalent i ddatblygu ein gwaith yn yr iaith Gymraeg".

Ychwanegodd llefarydd y bydd y theatr yn gweithio gyda chwmni dwyieithog yn 2018 ac y bydd drama iaith Gymraeg yn cael ei llwyfannu ganddynt yn 2019.

"Dydi'r ffigyrau yna ddim yn rhoi darlun clir. Ers i'r Cyfarwyddwr Artistig yma fod yn ei swydd tair drama sydd wedi eu comisiynu yn y Gymraeg gan y Sherman ei hun ochr yn ochr â 10 Saesneg," meddai Sian Powell, aelod o fwrdd Theatr Sherman.

"Ond ar yr un pryd mae 'na 12 drama wedi eu llwyfannu yn y Sherman ar y cyd â Theatr Genedlaethol Cymru a theatrau eraill ar draws Cymru - mae'n rhan o'n rôl ni hefyd i roi llwyfan i theatrau eraill ar draws Cymru sydd heb gartref fel petai, ac mae'n rhywbeth 'dan ni'n ei wneud yn llwyddiannus."

Gyda'r ddwy theatr yn derbyn y mwyafrif o'u cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Ms Eames yn galw arnynt i egluro eu cynlluniau ar gyfer datblygu talent iaith Gymraeg yn y dyfodol.

"Mae 'na ryw agwedd yn dechrau ymledu mewn ffordd annifyr ofnadwy," meddai.

"Ac mae e fel bod y bobl yma ddim yn deall, dydyn nhw ddim yn cydnabod statws yr iaith ac mae'n rhaid i ni dynnu sylw at y peth ac mae'n rhaid i ni fynd 'nôl at y Cyngor Celfyddydau a gofyn beth sy'n digwydd fan hyn, achos arian cyhoeddus ydy o."

'Datblygiad iach'

Dywedodd Cyngor y Celfyddydau mewn datganiad: "Tra ein bod yn goruchwylio gweithgareddau ein sefydliadau allweddol yn agos iawn, nid ydym yn ymgymryd â materion gweithredol sefydliadau unigol.

"Yn anochel, mae gweithio ar gyd-gynyrchiadau yn golygu llunio cytundebau gwahanol rhwng partneriaid cynhyrchu wrth ddatblygu gwaith ar gyfer y llwyfan.

"Ar y cyfan, mae hwn yn ddatblygiad iach ar gyfer darparu adnoddau ar gyfer y theatr yng Nghymru ac mae ein ffocws yn parhau i fod ar yr hyn a gynigir i'r cyhoedd a sut mae darparu cyfleoedd i dalent Cymru."

Ychwanegwyd y bydden nhw'n "disgwyl gweld ymdriniaeth glir ac ystyrlon ar gyfer hyrwyddo gweithgareddau Cymraeg" gan y ddwy theatr, a bod ei staff wedi bod yn "archwilio ffyrdd o hyrwyddo a defnyddio'r iaith ym mhob agwedd o'n gwaith".

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Menter ac Adfywio Cyngor Celfyddydau Cymru, Siân Tomos, eu bod wedi sefydlu tasglu i edrych ar ymdriniaeth theatrau â'r Gymraeg.

"Ma gynno ni bwyllgor monitro sy'n ystyried pob peth - cynlluniau iaith, y data sy'n dod i rym am y gynulleidfa a cyflogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a da ni wedi gweld cwymp ... da ni wedi penderfynu sefydlu tasglu ein hunain i ddweud y gwir... mae'n fater o frys i ddweud y gwir i gydweithio gyda'n gilydd, ac i gyd-dynnu a gweld be allwn ni neud yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol