Map arbennig Gŵyl y Cynhaeaf
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Map arbennig Afon Teifi yng Ngŵyl y Cynhaeaf

26 Medi 2017 Diweddarwyd 12:24 BST

Map rhyfeddol o Afon Teifi fydd y sbardun ar gyfer Gŵyl y Cynhaeaf eleni yn Aberteifi.

Mae Idris Mathias a'i wraig Beryl wedi cofnodi miloedd o fân enwau sydd ynghlwm â'r afon a'i glannau ar fap amryliw fydd yn cael ei arddangos yn y Gyfnewidfa Ŷd yn ystod wythnos yr ŵyl.