Y Bencampwriaeth: Caerdydd 3-1 Leeds

Kenneth Zohore a Nathaniel Mendez-Laing Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Kenneth Zohore a Nathaniel Mendez-Laing yn dathlu buddugoliaeth yr Adar Gleision

Mae Caerdydd ar frig y Bencampwriaeth wedi iddyn nhw guro Leeds yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Rhoddodd Kenneth Zohore yr Adar Gleision ar y blaen wedi 28 munud, cyn i Junior Hoilett ddyblu'r fantais gyda 37 munud ar y cloc.

Eiliadau cyn diwedd yr hanner cyntaf, derbyniodd capten Leeds, Liam Cooper, ei ail gerdyn melyn.

Sgoriodd Zohore ei ail wedi awr, cyn i Kemar Roofe fachu gôl gysur i'r ymwelwyr.

Mae gan Gaerdydd 23 o bwyntiau ar frig yr adran, gyda Leeds yn disgyn i'r ail safle gyda 20 pwynt.

Pynciau Cysylltiedig