"Cymru yw fy nghartref"

Mae'r heriau sy'n wynebu'r Gymraeg yn amlwg ledled y wlad, ond yn enwedig felly mewn ardal fel Casnewydd. Mae'r ddinas wedi bod yn gartref i Shereen Williams ers rhai blynyddoedd bellach, ac fel Mwslim ei hun, mae'n ymwybodol iawn o'r heriau sy'n wynebu pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn ein cymunedau.

Yn wreiddiol o Singapore, mae Shereen bellach yn gyfrifol bod Cyngor Casnewydd yn cynnal safonau'r Gymraeg ac hefyd am addysgu athrawon am eithafiaeth - ymhlith llawer o gyfrifoldebau gwirfoddol eraill.

Fel dysgwr ei hun, ac yn fam i ddau o blant ifanc - Iesu a Selyf - mae'n dweud wrth Cymru Fyw fod yr wythnosau diwethaf yn enwedig wedi bod yn heriol, ac am y sialens o fagu ei phlant mewn tair iaith:

464 gray line

'Gweiddi ar ei gilydd yn Gymraeg'

Dwi'n teimlo bod yna ddigon o ewyllys da tuag at y Gymraeg yng Nghasnewydd ond mae angen ffeindio llefydd yma ble all plant gymdeithasu yn yr iaith.

Mae Menter Iaith yn gwneud gwaith da iawn, fel cynnal dosbarthiadau pêl-droed yn y Gymraeg. Mae'n braf iawn fel rhiant clywed dy blant yn gweiddi ar ei gilydd yn Gymraeg!

Dwi'n gweld Cymraeg yn anodd - dwi wedi bod yn dysgu ers tair blynedd - ond mae'r plant yn gwneud yn wych. 'Dyn ni'n siarad Malay, Saesneg a Chymraeg.

Dwi'n credu mai'r dyfodol i'r wlad yma yw'r iaith Gymraeg. Dyw Cymraeg ddim yn rhwystr ac mae angen i ni feithrin awyrgylch i'n plant ble dyw hi ddim yn rhyfedd ei siarad hi.

'Dyn ni'n ddinas Seisnigaidd iawn yng Nghasnewydd ac mae 'na lawer o bobl unieithog sydd ddim yn ymwybodol o'r buddion o siarad mwy nag un iaith.

Mae pawb yn Singapore wedi eu magu yn ddwyieithog ond dyw hynny heb ein dal ni'n ôl fel cenedl.

Effaith ymosodiad Parsons Green

Dwi'n gwneud llawer o waith rhyng-grefyddol yn y gymuned. 'Dyn ni'n rhedeg dosbarthiadau sy'n dysgu am Islam mewn ysgolion cynradd a dwi'n cynnig hyfforddiant atal eithafiaeth mewn ysgolion hefyd.

Dwi wedi bod ym mhob un ysgol yn Sir Fynwy - ac mae 'na lawer ohonyn nhw! - yn hyfforddi staff ar beth ddylen nhw fod yn ymwybodol ohono.

Mae hi wedi bod yn bythefnos prysur ofnadwy. Yn amlwg mae'r tri dyn wedi cael eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad [ar ôl ymosodiad Parsons Green yn Llundain].

Ond mae 'na ddelwedd nawr bod Casnewydd wedi dod yn rhyw fath o "hotbet of extremism" ble, mewn gwirionedd, dyw e ddim.

Ry'n ni dal yn ddinas ddiogel iawn. Mae pobl yn poeni bod eu cymdogion nhw - sy'n Fwslemiaid - yn derfysgwr pan dyw hynny ddim yn wir. Mae eithafiaeth asgell dde yn gymaint o broblem yma yng Nghymru.

464 gray line

Efallai o ddiddordeb...

Pan ddigwyddodd yr arestio yng Nghasnewydd roedd 'na bobl yn y gymuned Fwslemaidd yn ystyried aros yn eu tai am ychydig ddyddiau - pobl oedd gan ddim i wneud â'r holl beth. Mae gwahaniaethu ar sail hil yn wiriondeb llwyr.

Yn y gorffennol dwi wedi cael rhywun yn fy nharo fi ar gefn fy mhen a sibrwd "may God be with you" cyn chwerthin a rhedeg i ffwrdd. Yng Nghaerdydd hefyd unwaith daeth 'na rywun fyny ata i a phoeri yn fy wyneb.

Alla i ddelio gyda hynny ond dwi ddim yn siŵr am fy mhlant. Mae fy mhlant i o dras gymysg felly mi all hynny ddigwydd iddyn nhw, neu mi allen nhw weld hynny'n digwydd i fi.

Y Cymry croesawgar?

Dyw'r pwynt wnaeth Shazia Awan godi [am anallu pobl oedd ddim yn wyn i nodi eu bod yn Gymry ar un o ffurflenni'r Cynulliad] ddim yn beth newydd.

Dwi'n cofio fforwm i bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol gan Gynulliad Cymru tua 2005 neu '06 pan wnaeth person ifanc godi'r pwynt am hunaniaeth.

Fe ofynnodd hi pam nad oedd modd cyfeirio ati hi ei hun fel Bangladeshi a Chymraes gan mai dim ond un o'r ddau oedd rhywun yn gallu ei dicio yn y blwch.

Er bod Cymru yn lle croesawgar bryd hynny, doeddwn i ddim yn gweld hunaniaeth Gymreig yn perthyn i unrhyw un oni bai am bobl wyn i fod yn onest.

Yn y blynyddoedd diwethaf dwi wedi gweld gwahaniaeth enfawr ble mae hunaniaeth Gymreig yn llawer mwy cynhwysol (inclusive).

Image caption Mae Shazia Awan o'r farn bod Cymru, yn wir, wedi tyfu i ddod yn "hotbed of extremism"

Nawr, does dim rhaid i chi fod yn wyn i fod yn Gymro neu'n Gymraes. Dwi wedi gweld y newid yna fy hun.

Hefyd, mae pobl ifanc a phlant yn llawer mwy parod i adnabod eu hunain fel Cymro neu Gymraes, yn lle dweud eu bod nhw'n Bangladeshi, er enghraifft.

Dwi wedi teithio tipyn yn fy mywyd a dydw i heb weld cenedl sy'n rhoi ei hun lawr gymaint â'r Cymry. Mae'n wir yma yng Nghasnewydd, mae pobl yn barod iawn i siarad y lle i lawr.

Yn Singapore 'dyn ni'n cael ein dysgu i fod yn falch o pwy ydyn ni drwy'r ysgol a dyna pam 'dyn ni'n falch iawn o'n treftadaeth. Dwi'n Singaporean ond Cymru yw fy nghartref.

Pynciau Cysylltiedig