Tasglu yn cefnogi'r alwad am 'fargen wledig'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Tasglu yn Sir Gâr cefnogi'r alwad am 'fargen wledig'

28 Medi 2017 Diweddarwyd 22:33 BST

Mae Cadeirydd Tasglu Gwledig newydd Sir Gâr wedi cefnogi'r alwad gan y Farwnes Eluned Morgan am "fargen wledig" newydd i gymunedau cefn gwlad.

Yn ôl y Cynghorydd Cefin Campbell, mae angen yr un math o hwb economaidd i sbarduno twf mewn ardaloedd gwledig ac sydd ar waith yn Rhanbarth Dinas Bae Abertawe a Chaerdydd yn sgil heriau Brexit ac wrth i'r boblogaeth heneiddio yng nghefn gwlad.

Sir Gâr yw'r awdurdod lleol cyntaf i sefydlu tasglu i edrych ar broblemau sy'n wynebu ardaloedd gwledig.

Bydd y grŵp trawsbleidiol o naw cynghorydd yn llunio strategaeth ac argymhellion i gynorthwyo'r adfywiad o ardaloedd lleol yn y sir.

Dyma adroddiad Aled Scourfield.