Graham Wagg yn ymestyn ei gytundeb gyda Morgannwg

Graham Wagg Image copyright Huw Evans picture agency

Mae cricedwr Morgannwg, Graham Wagg wedi arwyddo estyniad o ddwy flynedd i'w gytundeb gyda'r sir.

Mae'n golygu y bydd y gŵr 34 oed, wnaeth ymuno o Sir Derby yn 2011, yn aros yn Stadiwm Swalec nes diwedd tymor 2019.

Yn ystod ei gyfnod gyda Morgannwg mae wedi cipio 213 wiced a sgorio 3,260 o rediadau, a hynny mewn 79 gêm dosbarth cyntaf.

Dywedodd Wagg wrth wefan y clwb ei fod yn falch o fod yn aros yn ne Cymru.

"Mae gennym ni chwaraewyr hyn a chymysgedd dda o dalent Cymreig ifanc a dwi'n meddwl mai fy rôl i yw eu helpu i ddatblygu yn eu gyrfaoedd, yn ogystal â gwella fy hun fel cricedwr a pherfformio ar ran y tîm," meddai.

Pynciau Cysylltiedig