Pro14: Scarlets 36-27 Connacht

Scarlets Image copyright CameraSport

Fe lwyddodd y Scarlets i drechu Connacht mewn gêm gyffrous welodd naw cais yn cael ei sgorio ym Mharc y Scarlets.

Johnny McNicholl sgoriodd gyntaf i'r tîm cartref cyn i Jack Carty daro 'nôl i Connacht.

Fe wnaeth Steffan Evans a Rhys Patchell groesi, yna aeth yr ymwelwyr ar y blaen trwy Cian Kelleher a Tiernan O'Halloran, cyn i gais Leigh Halfpenny roi'r Scarlets ar y blaen ar yr hanner.

Rhoddodd O'Halloran obaith i'r ymwelwyr, ond i'r clo Tadhg Beirne sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Cymry.

Pynciau Cysylltiedig