Cynghorau: Pryder am ddiffyg menywod
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Prif weithredwyr cynghorau: Pryder am ddiffyg menywod

29 Medi 2017 Diweddarwyd 22:24 BST

Mae 140,000 o bobl yn gweithio o fewn llywodraeth leol yng Nghymru - ond dim ond tair menyw sy'n brif weithredwyr.

Cyn hir bydd hynny'n gostwng i ddwy.

Mae Bronwen Morgan, sy'n ymddeol fel Prif Weithredwr Cyngor Ceredigion, yn bryderus am gydraddoldeb o fewn y sector, ac nad yw menywod yn cael eu cymell yn ddigonol i gymryd cyfleon. Mari Grug sydd â'r stori'n llawn.