Caerdydd 0-0 Derby County

caerdydd Image copyright Getty Images

Mae Caerdydd yn parhau i fod ar frig y Bencampwriaeth ar ôl gêm ddi-sgôr yn erbyn Derby County.

Daeth y cynnig agosaf am gôl yn ystod yr hanner cyntaf, gan Junior Hoilett, gydag ergyd o bell tuag ar gôl Derby.

Fe ymddangosodd dau o sêr y tîm cenedlaethol dros Derby ddydd Sadwrn, ond ni lwyddodd Joe Ledley 'na Tom Lawrence i greu argraff y tro hwn.

Fe enillodd Wolverhampton Wanderers yn erbyn Burton Albion ddydd Sadwrn, sy'n golygu bod mantais Caerdydd ar frig y Bencampwriaeth wedi ei leihau i un pwynt yn unig.