Luton 3-1 Casnewydd

Joss Labadie Image copyright Getty Images
Image caption Fe sgoriodd y capten, Joss Labadie i Gasnewydd yn yr ail hanner

Llwyddodd Luton i sicrhau'r fuddugoliaeth yn erbyn Casnewydd ddydd Sadwrn, wedi cyfres o goliau yn yr hanner cyntaf.

Alan Sheehan oedd y cyntaf i sgorio i Luton, gyda chic rydd bwerus, ac yna daeth dwy gôl gan Danny Hylton, yn cynnwys un gic o'r smotyn, wedi i Ben Tozer lawio'r bêl.

Fe lwyddodd capten Casnewydd, Joss Labadie i sgorio gôl o gysur yn yr ail hanner, ond roedd mantais Luton yn ormod i'r Alltudion.

Mae Luton yn dringo i'r bumed safle yng Nghynghrair Dau, tra bod Casnewydd yn disgyn i'r 10fed safle.