Cyhoeddi enw dyn fu farw ar ôl cael ei daro gan gar

A487 Image copyright Google
Image caption Cafodd y dyn ei daro ar yr A487 yn Aberteifi

Mae crwner Ceredigion wedi cadarnhau enw dyn fu farw ar ôl cael ei daro gan gar wrth iddo gerdded ar ffordd yn Aberteifi.

Bu farw Steffan Goronwy James Thomas, 32 o bentref Llandudoch, wedi iddo gael ei daro ar yr A487 yn ystod oriau mân bore Sul.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad am tua 04:00 ddydd Sul, a bu'r ffordd ynghau nes tua 11:00.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion, yn enwedig unrhyw un a welodd y dyn yn cerdded ar y ffordd.

Mae crwner Ceredigion wedi agor a gohirio cwest i'w farwolaeth.

Pynciau Cysylltiedig