Chris Gunter yn ennill gwobr chwaraewr y flwyddyn CBDC

Chris Gunter Image copyright Getty Images
Image caption Mae Chris Gunter wedi ennill 81 o gapiau dros Gymru

Amddiffynnwr Reading, Chris Gunter sydd wedi'i enwi fel chwaraewr y flwyddyn Cymru, gan ddod â rhediad Gareth Bale o ennill y wobr i ben.

Ond seren Real Madrid wnaeth ennill gwobr y chwaraewyr, a chwaraewr canol cae Stoke, Joe Allen, oedd chwaraewr y cefnogwyr.

Bale oedd wedi ennill gwobr chwaraewr y flwyddyn yng ngwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru am y pedair blynedd diwethaf.

Laura O'Sullivan wnaeth ennill gwobr chwaraewr merched y flwyddyn, gydag Angharad James yn ennill gwobr y chwaraewyr a Jessica Fishlock yn chwaraewr y cefnogwyr.

Ben Woodburn a Peyton Vincze gafodd wobrau chwaraewyr ifanc y flwyddyn.

Fe gafodd Ian Rush ei gyflwyno â gwobr arbennig, tra mai Craig Williams o'r Drenewydd enillodd wobr chwaraewr clwb y flwyddyn yn Uwch Gynghrair Cymru.

Chwaraewr canol cae Reading, David Edwards wnaeth ennill gwobr dewis y cyfryngau.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Ben Woodburn wnaeth ennill gwobr chwaraewyr ifanc y flwyddyn

Enillwyr gwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru 2017

Gwobrau'r dynion

  • Chwaraewr y flwyddyn: Chris Gunter
  • Chwaraewr y cefnogwyr: Joe Allen
  • Chwaraewr ifanc: Ben Woodburn
  • Dewis y cyfryngau: David Edwards
  • Dewis y chwaraewyr: Gareth Bale
  • Gwobr arbennig CBDC: Ian Rush
  • Chwaraewr clwb y flwyddyn UGC: Craig Williams

Gwobrau'r merched

  • Chwaraewr y flwyddyn: Laura O'Sullivan
  • Chwaraewr ifanc y flwyddyn: Peyton Vincze
  • Dewis y chwaraewyr: Angharad James
  • Chwaraewr y cefnogwyr: Jess Fishlock