Taflunio fideo am Hedd Wyn ar furiau'r Llyfrgell Genedlaethol

Hedd Wyn Image copyright Llyfrgell Genedlaethol/ScottishPower Foundation
Image caption Delwedd artist

Bydd fideo arbennig am hanes a gwaith y bardd Hedd Wyn yn cael ei daflunio ar furiau'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth fel rhan o ddigwyddiadau penwythnos Sul y Cofio.

Cyhoeddodd y Llyfrgell y bydd gosodiad fideo yn cynnwys plant o Ysgol Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd yn cael ei daflunio ar flaen yr adeilad ar 9 Tachwedd.

Bydd y gwaith yn cynnwys darlleniad gan ddisgyblion o Ysgol Bro Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd o waith enwocaf y Prifardd, Rhyfel.

Yn y fideo, mae llinellau o'r gerdd sy'n sôn am ddyfodol rhyfel wedi eu cydblethu â ffilm o gartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn, a delweddau yn ymwneud â'r bardd, yn ogystal â phrofiad ehangach y Cymry yn y Rhyfel Mawr.

Mae'n rhan o gynllun ar y cyd rhwng y Llyfrgell Genedlaeth a ScottishPower Foundation.

Bydd yr achlysur yn benllanw ar flwyddyn o ddigwyddiadau yn 2017 i nodi canrif ers i Ellis Humphrey Evans farw ym Mrwydr Passchendaele yn 1917, ychydig wythnosau cyn iddo ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol