Galw am gynlluniau normaleiddio iaith fel Gwlad y Basg

Meirion Prys Jones
Image caption Mae Meirion Prys Jones yn dweud bod angen i "bob ysgol bentref fod yn Gymraeg"

"Rhaid i'r byd addysg yng Nghymru efelychu yr hyn sy'n digwydd yng Ngwlad y Basg os am sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

Dyna mae arbenigwyr addysg ac iaith yn ei ddweud mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru wrth i'r cyflwynydd Tim Hartley asesu pa mor bosib yw hi i'r llywodraeth gyrraedd y miliwn.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Tim Hartley yn fachgen bach bywiog (y trydydd i'r dde) yn Ysgol Sant Ffransis

Cafodd Tim ei fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg yn Y Barri ond yn wahanol i'w ffrindiau mae wedi byw y rhan fwyaf o'i fywyd yn Gymraeg.

I sicrhau llwyddiant ieithyddol tebyg iddo ef, mae Meirion Prys Jones, cyn brif weithredwr Bwrdd yr Iaith yn dweud bod yn rhaid i'r byd addysg yng Nghymru efelychu patrwm tebyg i Wlad y Basg.

Ddydd Mawrth dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies bod angen addasu a moderneiddio y ffordd mae addysg Gymraeg yn cael ei gynllunio.

Image copyright Thinkstock
Image caption Nod y Llywodraeth yw creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Wrth ymateb i'r galwadau a fydd yn cael eu gwneud yn y rhaglen dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi lansio strategaeth i gyrraedd y miliwn sydd yn cynnwys addysg drochi cyfrwng Cymraeg a chynyddu nifer y dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg sy'n dysgu'r iaith.

Wrth gyfeirio at Wlad y Basg dywedodd Meirion Prys Jones bod yna bethau yn gyffredin rhyngddi a Chymru ar un adeg.

"Roedd sefyllfa Gwlad y Basg yn debyg i sefyllfa Cymru yn yr 80au - yr un canran o blant oedd yn derbyn addysg yn y Fasceg ag a oedd yn derbyn addysg Gymraeg yng Nghymru.

"Ond mae'r Basgiaid drwy fuddsoddi'n helaeth a chynllunio'n ofalus wedi cynyddu hynny nes bod o gwmpas 90% o blant yn y sector gynradd yn derbyn rhan neu'r cyfan o'u haddysg drwy gyfrwng y Fasceg."

Pob ysgol gynradd yn Gymraeg?

"Hyd yma mae sector addysg Gymraeg wedi datblygu yn ôl ei phwysau ei hun ac er bod pob math o gynlluniau gan awdurdodau addysg, rhieni ar y cyfan sydd wedi bod yn gyfrifol am y galw a'r twf.

Ychwanegodd:"Ry'n yn dod i sefyllfa lle bydd yn rhaid i bob ysgol bentref fod yn Gymraeg os ydym am gyrraedd y miliwn erbyn 2050.

"Dy'n ni ddim am gyrraedd man lle ry'm yn gorfodi addysg Gymraeg a dwi'n ymwybodol y gall cael pob ysgol gynradd yn un Gymraeg arwain at bob math o drafferthion gwleidyddol ac felly fe fydd yn sefyllfa sydd angen ei thrin yn sensitif iawn."

'Rhaid cael cynllun'

Mae arbenigwyr ac athrawon presennol yn cytuno.

Yn ôl Eirlys Pritchard Jones a oedd yn athrawes yn ysgolion Rhydfelen a Llanhari ac yn brifathrawes Ysgol Gyfun Cymer, dyw hi ddim amhosib i bob ysgol yng Nghymru fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg.

"Dwi'n gwybod bod hyn yn mynd i fod yn amhoblogaidd tost a bydd gwleidyddion yn dweud ei bod hi'n amhosib ond dyw hi ddim os yw'r ewyllys yna.

"Ond mae eisiau cynllunio nawr, ac os yw'r llywodraeth yn meddwl ein bod yn mynd i gael cannoedd o siaradwyr Cymraeg heb unrhyw fath o gynllun na dim byd ond nod amhendant, yna dyw e ddim yn mynd i ddigwydd," meddai.

"Rhaid dechrau gydag ysbrydoliaeth - dyna yrrodd addysg Gymraeg i ddechrau.

"Rhaid cael strategaeth a syniad clir am adnoddau ac arweinwyr - dyw dweud miliwn o siaradwyr Cymraeg ddim yn ddigon. Rhaid meddwl hefyd beth sy'n mynd i alluogi disgyblion i siarad Cymraeg wedi gadael yr ysgol."

Normaleiddio iaith

Mae Dr Siôn Aled Owen wedi ymchwilio i faint o Gymraeg sy'n cael ei siarad y tu allan i'r ysgol ac yn ei ôl ef cael cynllun normaleiddio'r iaith tebyg i Wlad y Basg yw'r unig ateb.

"Mae hanner holl ysgolion Gwlad y Basg yn gorfod creu cynlluniau normaleiddio iaith sef edrych yn fanwl ar yr iaith ymhob rhan o'r ysgol a'r gymuned. Maent yn gynlluniau manwl ac yn llawer mwy effeithiol na'r hyn 'dan ni'n ei wneud."

Image caption Mae Dr Siôn Aled Owen yn dweud bod angen i blant wybod pam eu bod yn dysgu'r iaith

"Be mae plant wedi bod yn dweud wrthyf i yw y buasent yn hoffi defnyddio mwy o'r Gymraeg ond bod 'na ddim cyfle yna.

"Roeddent hefyd yn dweud bod anogaeth i siarad Cymraeg ond bod neb yn dweud pam a bod dim digon o drafodaeth ar hunaniaeth a Chymreictod."

Rhaid cael chwyldro

Mae Ion Thomas wedi bod yn athro yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ers chwarter canrif ac mae'n dweud mai'r broblem fawr ar hyn o bryd yw nad yw awdurdodau addysg yn mesur defnydd plant o'r Gymraeg.

Image caption Tim Hartley yn holi Ion Thomas a Lowri Edwards - dau athro yn y de ddwyrain

"Does 'na'r un awdurdod addysg yn poeni os oes go iawn Gymraeg ar y buarth neu os yw hi'n iaith gymdeithasol. Yr unig beth mae awdurdodau addysg yn poeni yw beth yw'r canlyniadau.

"Ry'n yn pwyso a mesur ysgolion cyfun fel ysgolion gramadeg. Does dim cwestiynau yn cael eu gofyn ynglŷn â'r defnydd o'r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol - mae rhaid cael chwyldro felly yn yr holl system.

"Os ydi pawb yn cael addysg gynradd Gymraeg, mi allech achub yr iaith mewn un genhedlaeth."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod eu strategaeth i gyrraedd y miliwn yn ymwneud gyda sawl agwedd, gan gynnwys ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar a chynyddu'r athrawon cynradd ac uwchradd sy'n dysgu'n Gymraeg.

Mae'r llywodraeth hefyd eisiau gweddnewid y ffordd mae addysg yn cael ei ddysgu i ddysgwyr ac yn dweud bod y sector dysgwyr i oedolion hefyd yn bwysig.

Bydd profiadau addysgol Tim Hartley a'i farn am wireddu nod y llywodraeth o greu'r miliwn o siaradwyr i'w clywed ddydd Mercher ar Radio Cymru am 12:00.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol