Does dim angen anobeithio medd Owain Llŷr
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Dim angen i Gymru anobeithio' yn sgil anaf Bale

3 Hydref 2017 Diweddarwyd 15:52 BST

Mae Owain Llŷr yn dweud bod yna "gyfle i'r chwaraewyr ifanc" yng ngharfan bêl-droed Cymru yn sgil y newyddion na fydd Gareth Bale yn holliach ar gyfer eu dwy gêm nesaf.

Bydd Cymru yn chwarae erbyn Georgia nos Wener a Gweriniaeth Iwerddon nos Lun er mwyn ceisio ennill ei lle yng Nghwpan y Byd Rwsia yn 2018.

Er bod y cyhoeddiad na fydd Bale yn chwarae yn "golled anferth i Gymru", mae Owain Llŷr yn dweud fod yna dal obaith.