Mistar Urdd yn gweld y byd

Ioan Gruffydd a'i deulu ifanc yn Brisbane yn talu teyrnged i Mistar Urdd
Image caption Ioan Gruffydd a'i deulu ifanc yn Brisbane yn talu teyrnged i Mistar Urdd

Mae'r ddau ymhlith sêr mwya'r genedl ond ar hyn o bryd maen nhw ym mhen draw'r byd.

Mae Ioan Gruffudd hefyd yn serennu ar hyn o bryd yn y gyfres ddrama Liar ar ITV tra bod Mistar Urdd wedi cael bos newydd yr wythnos hon.

Mae Alice, gwraig Ioan, wedi cyhoeddi llun ar Instagram o'r actor yn tynnu llun o'i ddwy ferch yn Brisbane, Awstralia. Ond mae 'na drydedd gwên yn y llun gan fod Mistar Urdd i'w weld yn glir ar grys-t y ferch ieuengaf.

Yn ôl Alice mae'r ferch fach wrth ei bodd â'r crys ac yn mynnu ei wisgo pob dydd, hyd yn oed pan mae'n frwnt.

Bydd bos newydd yr Urdd yn falch iawn o weld bod y mudiad yn cael sylw rhyngwladol ym mhen draw'r byd.

Fel mae'n digwydd roedd Sian Lewis a Ioan Gruffudd yn gyd-ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd.

Mae e'n fyd bach wedi'r cwbl!

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol