Tocyn iaith i bawb?

Mae'r actores Lauren Phillips - sy'n adnabyddus i wylwyr Pobol y Cwm fel Kelly - yn angerddol iawn am y Gymraeg, ac mae hynny'n deillio'n ôl i'w chyfnod yn yr ysgol.

Fel rhan o wythnos o raglenni ar BBC Radio Cymru sy'n edrych ar darged Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, aeth Lauren i siarad gyda'i hen ffrindiau o Ysgol Llanhari i weld pa mor bwysig ydy Cymraeg i'w bywydau o ddydd i ddydd:

Image caption Bu Lauren yn hel atgofion gyda Ozzy a Paul ar gyfer rhaglen i BBC Radio Cymru

Roedd fy rhieni i wedi symud i Dde Affrica am dair blynedd ar ddiwedd y 70au cyn i fi gael fy ngeni.

Gelon nhw ddim y cyfle i fynd i ysgol Gymraeg ac yn fan 'ny 'naethon nhw sylweddoli: "Waw, nag yw e'n ffantastig bod cymunedau mas fan hyn yn siarad iaith y wlad?" Felly dyma nhw'n dod nôl a phenderfynu mynd â fi i ysgol Gymraeg.

Mae 'na deimlad a agwedd o "I can't speak Welsh so I can't take my children to a Welsh school" a ma' rhieni yn ofni allen nhw ddim helpu eu plant 'da gwaith cartref, er enghraifft - a dwi'n deall hynny.

Ma' cael y gefnogeth yna i fynd i'r ysgol a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhywbeth nes i gymryd yn ganiataol.

Y rheol yn yr ysgol oedd bod ti mewn ysgol Gymraeg felly ti'n gorfod siarad Cymraeg. Fi'm yn meddwl bod yr ysgolion mor llym ag oedden nhw pan o'n i'n yr ysgol.

Oedden ni'n cystadlu'n frwd yn yr Eisteddfod, oedden ni'n gwneud gweithgareddau a chyngherddau yn Gymraeg.

Ond mas ar yr iard doedd e ddim yn cŵl i siarad Cymraeg - oedd e'n eitha' rebellious i siarad Saesneg.

Efallai o ddiddordeb...

464 gray line

Oeddet ti'n cael tocyn iaith os oeddet ti'n siarad Cymraeg ac o'n i'n eitha savvy felly os o'n i'n gweld athrawon yn dod yn agos o'n i'n troi i siarad Cymraeg!

Mae'n dibynnu ym mha awyrgylch mae'r rheol yna yn bodoli achos os yw'r approach yn llym a falle dyw e ddim yn hwyl neu'n bositif, ma' pobl yn fwy tebygol o dorri'r rheolau.

Ond oedden ni'n lwcus yn Ysgol Llanhari. Roedd cael hwyl trwy gyfrwng y Gymraeg yn digwydd yn wythnosol ac roedd gen ti brifathro, Peter Griffiths, oedd yn angerddol iawn ac oedd e'n ysbrydoli hyd yn oed y bobl mwya' 'drwg' yn yr ysgol! O'dd e mor ffantastig ac yn trin pawb yr un fath.

Roedd 'na bobl yn yr ysgol oedd yn fwy cyfforddus yn siarad Saesneg a dyna beth yw'r 'luxury' o siarad y ddwy iaith, bo' ti'n gallu switcho o'r ddwy.

Fi'm yn meddwl bod dim byd o'i le ar fod yn llym. Mae'n rhaid i blant a phobl ifanc gael rheolau.

Ma' bod yn blant a rebelio yn dod law yn llaw - mae e'n digwydd i ni gyd. Dyw hynna ddim yn golygu bod y rheolau ddim yn gweithio - maen nhw'n sinco i fewn yn rhywle.

Ma' ffrindie ysgol fi nawr sydd heb ddefnyddio Cymraeg ers hynny wastad yn dweud: "Os fydden i ond wedi siarad mwy o Gymraeg..." Mae e'n rhywbeth ti'n sylweddoli oedd yn bwysig ar ôl i ti adael.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Clip fideo: Lauren Phillips yn siarad ag Ozzy a Paul ar gyfer rhaglen Iaith Pawb?

Achos natur fy ngwaith a natur y cymeriad fi'n chwarae yn Pobol y Cwm, dwi'n teimlo'n gryf iawn am trio cynrychioli y bobl yna sydd yn siarad Saesneg ond sydd moyn siarad Cymraeg.

Tasen ni fel sianel yn rhy llym a bod pawb yn siarad yn gywir, dwi seriously yn meddwl bydden ni'n alienatio rhan helaeth y gynulleidfa. Mae rhai o'r cymeriade 'ma ar y teledu yn gymorth i bobl.

Fi mewn sefyllfa ffodus ble fi'n chwarae cymeriad sy'n siarad cymysgedd o'r ddwy iaith a ma' hynny o bosib yn mynd i 'windo' pobl lan ond mae 'na bobl eraill sy'n gwylio'r rhaglen er mwyn clywed y ffordd maen nhw'n siarad.

Pam na allwn ni ddarlledu yn y ddwy iaith? Fi'n meddwl bod hynny'n rhywbeth i ddathlu.

Dwi mor browd o'r rhaglen dwi'n rhan ohoni, a dwi'n benderfynol bod y cymeriad yn annog pobl i siarad yr iaith.

Mae 'na darged o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fi'n credu'n gryf fod e ddim yn realistig os ydyn ni'n mynd i drio cael pobl i siarad yn gywir achos dychryn pobl ti'n gwneud wedyn.

Alli di ddim dweud wrth bobl bod nhw ddim yn siarad Cymraeg yn iawn. Ti ddim yn mynd i annog pobl a rhoi'r hyder i bobl. Mae'r iaith yn mynd i wella wrth iddyn nhw ymarfer yr iaith. Dyna sut ti'n mynd i gyrraedd y targed.

Mae e'n biti mawr bod 'na agwedd - a ni gyd wedi profiadu fe ar ryw bwynt - taw dim ond cywirdeb ddyle gael ei dderbyn ac ma' hynny'n biti mawr achos o'dd 80 y cant ohono ni oedd yn ffrindie ysgol yn dod o deuluoedd di-Gymraeg.

Kelly, Pobol y Cwm
Image caption Mae Lauren yn chwarae rhan Kelly ar Pobol y Cwm ers dros 10 mlynedd

Yn bendant ma' 'da fi ffrindie sy' ddim yn siarad Cymraeg erbyn hyn achos bod dim hyder gyda nhw a bod nhw ofn cael pethau'n anghywir, ofn camdreiglo a chael brawddegau'n anghywir.

Ni'n oedolion ac os yw rhywun yn meddwl bod camdreiglo neu defnyddio geiriau Saesneg mewn brawddegau yn broblem, wel... mae ganddyn ni fwy o broblemau i boeni amdanyn nhw. Ond dwi'n meddwl bod pobl ofn dweud 'na yn anffodus.

Fysen i'n licio cyrraedd y targed o filiwn ond dyw e ddim yn mynd i ddigwydd gyda'r agwedd yna.

Gwrandewch ar 'Cymraeg 2050: Iaith Pawb?' yma.