Cynnydd enfawr merched yn chwarae rygbi
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cynnydd enfawr yn nifer y merched sy'n chwarae rygbi

5 Hydref 2017 Diweddarwyd 21:41 BST

Mae cynnydd enfawr wedi bod yn nifer y merched ifanc sy'n chwarae rygbi, a dyw hynny yn ddim llai na "chwyldro" yn ôl Undeb Rygbi Cymru.

O'r ychydig gannoedd oedd yn camu i'r cae dair blynedd yn ôl, mae'r nifer bellach dros 10,000.

Mae'n brawf o lwyddiant cynlluniau diweddar i hybu'r gêm, ond fydd yna ddim llaesu dwylo, fel y clywodd Dafydd Gwynn.