Gwobrwyo'r goreuon yn seremoni BAFTA Cymru

Bafta Cymru gong

Bydd seremoni BAFTA Cymru yn digwydd yn ddiweddarach heno gyda'r goreuon ym myd y cyfryngau a'r diwydiant creadigol yn cael eu gwobrwyo.

Y cyflwynydd a'r DJ Huw Stephens fydd yn cyflwyno'r seremoni am y trydydd gwaith yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Bydd perfformiadau byw gan y gantores Lucie Jones, un o gystadleuwyr y rhaglen deledu X-Factor a'r Eurovision, a'r gantores a chyfansoddwraig Betsy.

Rhaglen Aberfan: The Green Hollow sydd wedi cael y nifer uchaf o enwebiadau sef saith ac mae'r ddrama deledu Sherlock a'r ffilm The Lighthouse wedi cael pum enwebiad yr un.

Image copyright PA
Image caption Fe ddaeth Lucie Jones yn wythfed yng nghystadleuaeth yr X Factor yn 2009

Mae'r meini prawf ar gyfer y gwobrau wedi newid rhywfaint eleni sydd yn golygu bod talent o Gymru sydd yn gweithio ar gynyrchiadau Prydeinig hefyd yn gallu cael eu cydnabod.

Mae hynny yn golygu bod yr actores Kimberley Nixon wedi derbyn enwebiad ar gyfer y ddrama BBC 'Ordinary Lies.'

Hefyd mae Euros Lyn a Catrin Meredydd wedi eu henwebu ar gyfer y cyfarwyddwr gorau a dylunio cynhyrchiad ar gyfer eu gwaith ar ddrama BBC 'Damilola, Our Loved Boy.'

Ymhlith y rhai eraill sydd wedi eu henwebu mae James Dean Bradfield o'r band Manic Street Preachers a'r newyddiadurwr â'r cyflwynydd Huw Edwards.

Mae BAFTA Cymru wedi cyhoeddi yn barod mai'r awdur Abi Morgan gafodd ei geni yng Nghaerdydd fydd yn derbyn gwobr Siân Phillips eleni a'r actor a'r cynhyrchydd, John Rhys Davies sydd yn cael Gwobr Arbennig BAFTA am Gyfraniad Rhagorol i Ffilm a Theledu.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol