Daeth cannoedd i'r ŵyl gyhoeddi yn Aberhonddu
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cannoedd yn dod i ŵyl gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd

7 Hydref 2017 Diweddarwyd 20:35 BST

Mae cannoedd o bobl wedi dod i ŵyl gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd, fydd yn cael ei chynnal ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd, flwyddyn nesaf.

Dyma'r tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Brycheiniog a Maesyfed ers 1978.

Yn ystod y bore fe fu pobl yn gorymdeithio trwy'r dref gan gychwyn yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu.