Ceisio cipio merch 11 oed ger Caerffili

Heddlu

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio wedi adroddiadau bod gyrrwr wedi gofyn i ferch 11 oed fynd i fewn i'w gar.

Roedd y ferch yn cerdded ym mhentref Trethomas ger Caerffili tua 18:00 ddydd Iau pan ddaeth y dyn ati.

Fe redodd y ferch at ei ffrindiau a chafodd hi ddim ei brifo.

Mae'r dyn yn cael ei ddisgrifio fel dyn moel ac yn ei 40au neu 50au.

Mae'r heddlu yn gofyn i lygad dystion gysylltu trwy ffonio 101.