Lluniau: BAFTA Cymru 2017

Roedd y carped coch yn llawn sêr ar nos Sul 08 Hydref ar gyfer seremoni wobrwyo BAFTA Cymru. Dyma i chi rai o'r uchafbwyntiau. Sioned Birchall oedd ffotograffydd Cymru Fyw yn y digwyddiad:

Image caption Mae 'na brysurdeb wrth i'r sêr gyrraedd Neuadd Dewi Sant
Image caption Deian a Loli oedd enillwyr poblogaidd y rhaglen blant orau
Image caption Cafodd Gwobr Arbennig BAFTA ei chyflwyno i John Rhys Davies
Image caption Un o gyflwynwyr y noson oedd Emma Walford, un o'r tair Eden
Image caption Cafodd Jonny Owen ei enwebu am ei ffilm ddogfen 'Don't Take Me Home' am haf bythgofiadwy Cymru yn yr Ewros. Mae ei bartner Vicky McClure yn wyneb cyfarwydd mewn cyfresi drama fel 'Line of Duty' a 'This is England'
Image caption "Ffansi'ch gweld chi'ch dau yma!" Bydd y seremoni yn siŵr o gael sylw ar Wales Today a Heno!
Image caption Euros Lyn oedd y Cyfarwyddwr Gorau am ei waith ar ffilm Y Llyfrgell
Image caption Amser am hunlun!
Image caption Caryl ar y carped coch. Hi oedd awdur Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs
Image caption Y gantores leol Lucie Jones o Bentyrch fu'n perfformio ar y noson
Image caption Roedd hi'n noson arloesol i Elin Fflur. Bu hi'n datgelu'r enillwyr trwy gyfrwng Facebook Live