Gwrthdrawiad: Teyrngedau i Paul Garrett o Gaerdydd

Damwain Caerdydd
Image caption Roedd Ffordd Pencisely yn Llandaf ynghau yn dilyn y digwyddiad brynhawn ddydd Gwener

Mae teulu seiclwr ar fu farw yng Nghaerdydd ddydd Gwener wedi rhoi teyrnged iddo.

Roedd Paul Garrett yn 54 oed, a bu farw yn dilyn gwrthdrawiad â char Ford Focus ar Ffordd Pencisely yn ardal Llandaf.

Mewn neges ar Facebook dywedodd ei wraig Karen: "Dyw geiriau ddim yn gallu mynegi sut rwy'n teimlo, rydw i wedi torri yn llwyr. Roedd Paul yn un mewn miliwn."

Mae teulu a chyfeillion Mr Garrett wedi gadael blodau wrth ymyl y ffordd lle ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Image copyright Hammond,Anna swp54672
Image caption Roedd Paul Garrett yn un o swyddogion Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd

Roedd Mr Garrett yn gweithio yn Chwaraeon Cymru, sydd wedi ei ddisgrifio fel "aelod o staff gweithgar a phoblogaidd iawn".

Dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell: "Mae pawb yma yn Chwaraeon Cymru yn torri eu calonnau i ddysgu am farwolaeth ein cydweithiwr a ffrind Paul.

"Byddwn yn ei fethu yn ofnadwy."

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol