Cyllideb cefn gwlad
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Colli arian yn ergyd i economi 'fregus' cefn gwlad

12 Hydref 2017 Diweddarwyd 06:57 BST

Mae Llywodraeth Cymru wedi eu beirniadu gan grwpiau amgylcheddol a chefn gwlad, yn dilyn toriad o 15% i'r adran materion gwledig.

Yn ôl gweinidogion, bydd y cyllid ar gael yn sgil yr arian sydd wedi'i symud at adran llywodraeth leol.

Fodd bynnag, mae Rebecca Williams, Cyfarwyddwr CLA Cymru yn dweud bod y gostyngiad yn ergyd i economi sy'n fregus yn barod.