Cyllideb
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cefn gwlad: 'Penderfyniadau anodd' i Lywodraeth Cymru

12 Hydref 2017 Diweddarwyd 06:57 BST

Wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb ddrafft, mae grwpiau amgylcheddol ac amaeth wedi mynegi "rhwystredigaeth" am doriad o 15% i'r adran materion gwledig.

Mae gweinidogion yn mynnu bod y toriad yn efelychu arian sydd wedi'i symud at yr adran llywodraeth leol.

Yn ôl Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, mae penderfyniadau anodd yn wynebu Llywodraeth Cymru wrth i'w chyllideb leihau dros y blynyddoedd nesaf.