Brwydro anorecsia

Charlotte May Image copyright Charlotte May

Mae bywyd yn frwydr i un fyfyrwraig o Gaerfyrddin, a hynny ers iddi ddioddef o afiechyd bwyta am flynyddoedd.

Er bod Charlotte May bellach ar y llwybr at wellhad, a'i phwysau hi mewn man diogel, dyw bywyd ddim yn fêl i gyd.

"Dwi'n teimlo fel person drwg, ac nad ydw i'n haeddu dim byd mewn bywyd," meddai'r ferch 26 oed, sydd wedi bod yn sâl ers oedd hi'n 11 oed.

"Dwi'n brwydro bob dydd, ond dydy pobl ddim yn ystyried hynna o gwbl.

"Mae wedi bod yn ofnadwy, ac ar un pwynt, ro'n i'n meddwl y byddai fy nghalon yn stopio, ond ro'n i mor sâl, ro'n i tu hwnt i boeni am y peth."

Gwnaeth hi golli pedair stôn i gyd, ac ar ei gwaethaf, roedd ei BMI hi'n 10.2, sydd yn isel tu hwnt.

Image copyright Charlotte May
Image caption "Mae dyddiau anodd iawn, gyda fy mhen i'n dweud wrtha i i gymryd camau yn ôl bob dydd."

"Sa i cweit yn siŵr sut dwi wedi goroesi o gwbl, dwi wedi bod yn lwcus iawn. Ro'n i ar drothwy marwolaeth," meddai.

Ar ôl bod mewn ac allan o'r ysbyty am dros chwe blynedd, mae hi'n teimlo'n lwcus iawn.

"Dwi newydd dreulio fy mlwyddyn gyntaf mas yn y byd go iawn," meddai'n falch.

Fe wnaeth hi dreulio bron i ddwy flynedd yn Ysbyty Glangwili, ac mae'n fythol ddiolchgar i'r staff yno.

"Roedden nhw'n gweithio mor galed ar ward Morlais i geisio helpu, er nad o'n i'n glaf hawdd iawn. Ro'n i'n ofnadwy.

"Dwi nôl i bwysau saff nawr, ac er bod pobl yn dweud fy mod i'n edrych yn grêt, wel dydy hynny ddim yn golygu fy mod i'n 'grêt' yn feddyliol," meddai Charlotte.

Dysgu byw gydag e

Mae wedi bod yn broses hir ac anodd at wella, gyda nifer o broblemau meddyliol yn gwmwl dros ei bywyd.

"Dyw pethau ddim yn hawdd o bell ffordd - does dim pwynt i mi wadu. Mae dyddiau anodd iawn, gyda fy mhen i'n dweud wrtha i i gymryd camau yn ôl bob dydd.

"Ond mae'r risg o golli popeth - bywyd prifysgol, bywyd yn gyffredinol, fy nghar a phob math o bethau. Dyw e jyst ddim werth e."

Mae magu pwysau wedi bod yn artaith iddi, meddai, ac mae hi'n teimlo ei bod hi'n drymach nag yr hoffai fod.

"Dwi'n teimlo'n afiach drwy'r amser, ac yn casáu fy hun, ond dwi'n ceisio gweithio ar hynny.

"Mae pobl yn meddwl am afiechyd bwyta fel rhywun sydd jyst 'ddim yn bwyta' ond mae'n gymaint yn fwy na hynny.

"Mae gen i dueddiadau OCD, ac yn aml iawn, dwi'n gadael i iselder a gor bryder i gael y gorau ohona i, felly dwi'n tueddu i gloi fy hun bant o'r byd. Dwi mor paranoid hefyd."

Mae'n ofni y bydd rhaid iddi fyw gyda'r salwch am flynyddoedd, os nad am byth.

"Yn anffodus, bydd y salwch yn rhan ohona i am byth, ond dwi wirioneddol yn gobeithio y gallaf anwybyddu beth sydd yn fy mhen fwyfwy yn y dyfodol, a thrio dysgu byw eto," meddai Charlotte.

"Dwi wedi colli mas ar gymaint, alla i ddim byw fel hyn am byth."

Image copyright Charlotte May
Image caption "Os alla i gwffio hyn, gall unrhyw un wneud"

'Does dim cywilydd'

Mae mor bwysig i'r rheini sydd yn yr un cwch â hi i siarad, meddai'n bendant.

"Does dim cywilydd mewn brwydro anorecsia, nag unrhyw afiechyd bwyta yn gyffredinol.

"Fe wnes i dreulio cymaint o amser yn cuddio fy salwch, roedd gen i gymaint o gywilydd, ond dwi wedi cael agoriad llygad faint o bobl sydd actually yn dioddef o bob math o broblemau meddyliol.

"Dwi'n gweithio mor galed ar fynd yn ôl ar y trywydd iawn.

"Weithiau dwi'n baglu ond os alla i barhau i symud ymlaen yn lle mynd am yn ôl, bydda i'n hapus. Os alla i gwffio hyn, gall unrhyw un wneud."

Stori: Llinos Dafydd