Gwaith 'dal i'w wneud' i ddatblygu clystyrau iechyd

Dr Dai Lloyd
Image caption Does dim digon o dystiolaeth i ddangos bod clystyrau yn lleihau pwysau ar gyfer meddygon teulu, meddai Dr Dai Lloyd

Mae dal "gwaith i'w wneud" er mwyn datblygu clystyrau o feddygfeydd ar draws Cymru, yn ôl pwyllgor iechyd y Cynulliad.

Yng Nghymru mae 64 ohonynt, a'r bwriad yw bod meddygon teulu yn cydweithio ac yn cynnig gwasanaethau eraill fel fferyllfeydd, cwnsela a ffisiotherapi.

Mae ACau eisiau dull newydd er mwyn gwneud yn siŵr bod y "gwasanaethau cywir yn cael eu cynnig yn yr ardaloedd cywir yn y ffordd gywir".

Mae eu hadroddiad yn tanlinellu enghreifftiau da lle mae cydweithio agosach wedi helpu cleifion a golygu bod adnoddau yn cael eu harbed.

Ond saith mlynedd ers i'r clystyrau cyntaf gael ei sefydlu mae dal "gwaith i wneud" ac mae angen "newid sylweddol" yn y ffordd mae clystyrau yn cael eu datblygu.

Diffyg tystiolaeth

"Un rheswm allweddol y tu ôl i greu clystyrau gofal sylfaenol yw i leddfu pwysau ar feddygon teulu ac ar ein hysbytai trwy gadw gwasanaethau iechyd hanfodol yn fwy lleol yng nghymunedau pobl," meddai Dr Dai Lloyd, cadeirydd y pwyllgor iechyd.

"Ond ychydig yn unig o dystiolaeth sydd i ddangos bod hyn yn digwydd ar draws 64 o glystyrau Cymru."

Mae bob clwstwr yn ddolen gyswllt rhwng doctoriaid a gwasanaethau iechyd eraill mewn pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru sydd gyda phoblogaeth rhwng 30,000 a 50,000.

Image caption Meddygon teulu a rheolwyr y meddygfeydd yn cyfarfod ym Mhen-y-bont

Un o'r clystyrau sydd yn effeithiol yw clwstwr Pen-y-bont yn nwyrain Pen-y-bont ar Ogwr. Maen nhw'n cynnig gwasanaethau i fwy na 70,000 o gleifion.

Yno mae chwe meddygfa, sy'n cynnwys 35 o ddoctoriaid, yn gweithio'n agos gyda'i gilydd, yn rhannu arbenigedd, ac yn gweithio fel ffederasiwn - yr un cyntaf yng Nghymru.

Y canlyniad yw bod gwasanaeth cwnsela wedi ei sefydlu i oedolion sydd â salwch meddwl.

Cyn y gwasanaeth yma roedd cleifion yn cael eu cyfeirio at elusennau am gymorth ac yn wynebu rhestr aros hir, a hefyd yn gwneud apwyntiadau i weld eu meddygon teulu.

Pwysau gwaith

Mae gan y clwstwr hefyd fferyllydd clinigol, Neil Sugden, ac mae'n dweud bod y cydweithio yn arbed amser meddygon teulu.

"Rydyn ni'n atal meddyginiaethau pan nad ydyn nhw'n effeithiol. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf fe wnaethon ni arbed £600,000 ar ein cyllideb presgripsiwn, sydd yn ostyngiad sylweddol."

Yn ôl Dr Huw Parry, partner yn New Surgery ym Mhencoed, fe allai'r meddygfeydd hefyd rannu gwybodaeth arbenigol.

"Rhyngom ni fe allwn ni rannu dau neu dri meddyg sydd gyda'r arbenigedd i ddarparu'r gwasanaeth," meddai.

Ychwanegodd eu bod nhw nawr yn ystyried ehangu a gofyn am waith sydd fel arfer yn digwydd mewn ysbytai.

Ond mae rhai meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd ymwneud â chlystyrau oherwydd pwysau gwaith, a phryder na fyddan nhw'n treulio digon o amser gyda'u cleifion.

Ymhlith yr 16 o argymhellion mae'r pwyllgor eisiau cyfeiriad cliriach gan Lywodraeth Cymru, ac ymgyrch genedlaethol er mwyn esbonio i'r cyhoedd y budd o weithio mewn clystyrau.

Safbwynt Dr Charlotte Jones, cadeirydd pwyllgor meddygon teulu'r BMA yng Nghymru, yw bod y syniad a'r egwyddor yn un da a'u bod yn dechrau gwneud gwahaniaeth.

Ond mae angen gallu gwarantu nawdd hir dymor, meddai.

Ychwanegodd bod weithiau gormod o fiwrocratiaeth ar lefel y byrddau iechyd oedd yn stopio rhai clystyrau rhag datblygu.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw'n ystyried yr adroddiad yn ofalus.

"Bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn ysgrifennu at y pwyllgor gyda'i ymateb i bob un o'r argymhellion mewn amser," meddai'r llefarydd.

Pynciau Cysylltiedig