Mam a mab yn gwadu llofruddio dynes 84 oed o Sir Benfro

Penelope John a Barry Rodgers Image copyright Wales News Service
Image caption Mae Penelope John a Barry Rodgers wedi'u cyhuddo o lofruddio Betty Guy

Mae mam a mab wedi ymddangos yn y llys i wadu cyhuddiadau o ladd dynes 84 oed o Sir Benfro chwe blynedd yn ôl.

Cafodd Penelope John, 50, a Barry Rogers, 32, eu cyhuddo o lofruddio Betty Guy yn 2011.

Mae'r ddau, oedd yn ferch a ŵyr i Ms Guy, hefyd yn gwadu dynladdiad.

Fe wnaeth Ms John, o Landudoch, a Mr Rogers, o Abergwaun, eistedd yn y doc gyda'i gilydd yn Llys y Goron Abertawe.

Mae'r ddau wedi eu cadw yn y ddalfa nes eu hachos llys, fydd yn dechrau ar 8 Ionawr 2018.

Mewn datganiad cynharach roedd Heddlu Dyfed Powys wedi dweud fod y cyhuddiadau wedi eu dwyn yn dilyn "ymchwiliad trylwyr diweddar i amgylchiadau marwolaeth Betty Guy".

Bu farw Ms Guy, oedd yn byw yn Hwlffordd, ar 7 Tachwedd 2011.