'Gwarth' fod aelodau Cymru'n Senedd Ewrop yn 'oedi Brexit'

Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd

Mae'n "warth llwyr" bod aelodau Cymreig o Senedd Ewrop wedi pleidleisio o blaid oedi yn y trafodaethau Brexit, yn ôl ASE UKIP, Nathan Gill.

Cefnogodd Derek Vaughan o'r Blaid Lafur a Jill Evans o Blaid Cymru gynnig seneddol oedd yn annog yr UE i beidio â symud ymlaen i gyfnod nesaf y sgyrsiau Brexit dros fasnach.

Yr wythnos diwethaf dywedodd prif drafodwr yr UE, Michel Barnier, na allai'r trafodaethau symud ymlaen i'r cam nesaf oherwydd bod anghytuno o hyd ar faint y bydd yn rhaid i'r DU ei dalu wrth adael yr undeb.

Bydd gweinidogion llywodraethau Cymru, yr Alban a'r DU yn cwrdd yn San Steffan ddydd Llun i drafod Brexit.

'Ewyllys democrataidd'

Wrth siarad cyn cyfarfod cyntaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, ei fod yn, "gyfle i ailosod y berthynas waith, a chynnwys y deddfwrfeydd datganoledig wrth ddatblygu safbwynt trafod ar gyfer ymadael â'r UE."

Ychwanegodd Mr Drakeford ei fod yn bwysig, "adeiladu consensws ynghylch y math o Brydain rydyn ni am ei gweld ar ôl Brexit."

Mae arweinwyr yr UE yn cwrdd ym Mrwsel ddiwedd yr wythnos i drafod sut mae'r trafodaethau Brexit yn datblygu.

Dywedodd Michel Barnier wrth ohebwyr wythnos ddiwethaf nad oedd digon o gynnydd wedi'i wneud i symud trafodaethau ymlaen o faterion gwahanu i drafod y berthynas fasnachol newydd.

Image caption Mae Nathan Gill yn ASE UKIP ym Mrwsel, ond yn AC annibynnol yn y Cynulliad

Roedd y bleidlais yn Senedd Ewrop yn Strasbourg ddechrau mis Hydref, sydd ddim yn clymu'r UE i weithredu, hefyd wedi cefnogi'r UE wrth ohirio symud ymlaen i'r cam nesaf yn y trafodaethau.

Cafodd ei chefnogi gan 557 ASE, gyda 92 yn erbyn a 29 yn ymatal.

Dywedodd ASE UKIP, Nathan Gill, fod ei gyd ASEau Cymreig, Derek Vaughan a Jill Evans, a gefnogodd y cynnig yn, "gwrthdroi ewyllys democrataidd y Cymry."

Ychwanegodd Mr Gill: "Bydd yn rhaid i ASEau bleidleisio ar y fargen Brexit terfynol ym Mrwsel, a materion pellach yn ystod y trafodaethau, ac os mai dyma yw agwedd ASEau eraill, yna mae'n ddrwg gen i ddweud ei bod yn ymddangos eu bod yn bwriadu atal y broses o adael er mwyn cadw gafael ar eu swyddi da.

"Mae'n warth llwyr ac mae pobl Cymru'n haeddu gwybod y gwir."

Hawliau

Dywedodd Derek Vaughan, sydd yn ASE Llafur ers 2009, ei fod yn, "synnu bod Mr Gill yno i bleidleisio gan ei fod yn mynychu Senedd Ewrop yn anaml i wneud y swydd mae'n cael ei dalu i'w wneud."

"Oherwydd anghytuno mewnol, dyw'r llywodraeth ddim wedi cyflwyno cynigion sy'n diogelu hawliau dinasyddion, delio â'r ffin yn Iwerddon neu'n setlo ei rwymedigaethau ariannol sy'n helpu i dalu am gronfeydd strwythurol a'r polisi amaethyddol," meddai.

"Pan fo cynnydd digonol ar y materion hyn, fe fydda i a gweddill Senedd Ewrop yn falch o bleidleisio dros gymryd y cam nesaf."

Dywedodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans: "Roedd mwyafrif llethol Aelodau Senedd Ewrop yn teimlo nad oedd modd symud i drafod telerau masnach oherwydd diffyg cynnydd yn y trafodaethau.

Image caption Fe wnaeth Derek Vaughan a Jill Evans bleidleisio o blaid oedi trafodaethau Brexit tan fod rhai materion yn cael eu datrys

"Y prif reswm am hyn yw amharodrwydd Llywodraeth y DU i ddod i gytundeb ar hawliau dinasyddion.

"Byddai'n gwbl annerbyniol petai dinasyddion, ym Mhrydain neu weddill yr UE, yn colli'r hawliau sydd ganddyn nhw nawr oherwydd Brexit."

Fe ddilynodd yr ASE Ceidwadol dros Gymru, Kay Swinburne, chwip ei phlaid drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig.

Dywedodd: "Doeddwn i ddim wedi cefnogi'r penderfyniad hwn gan y Senedd gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig i amlinellu perthynas y DU â'r UE yn y dyfodol cyn gynted â phosib.

"Wrth wneud hyn, nid yn unig y byddwn yn gallu cynnig eglurder a sefydlogrwydd i ddinasyddion a busnesau ar y ddwy ochr, ond byddwn hefyd yn gallu defnyddio'r weledigaeth gyffredin hon i ddatgloi problemau anodd sydd wedi codi yn y trafodaethau a'r rhai newydd sy'n mynd i godi heb amheuaeth wrth i'r trafodaethau manwl fynd rhagddynt."

Llais Cymru

Bydd aelodau o Bwyllgor Brexit y Cynulliad yn ymweld â Brwsel ddydd Llun i gwrdd â Michel Barnier o'r Comisiwn Ewropeaidd, sy'n arwain y trafodaethau ar ran yr UE.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, David Rees, fod swyddogion yr UE, "yn amlwg yn croesawu safbwynt Cymru yn hyn o beth" a bod yn rhaid i wleidyddion Cymru gynnal y ddeialog, "er mwyn sicrhau bod llais Cymru'n cael ei glywed mor aml ag sy'n bosib."

Mae'r pwyllgor eisoes wedi cyfarfod â phrif drafodwr Senedd Ewrop, Guy Verhofstadt, a Didier Seeuws, arweinydd Tasglu Brexit y Cyngor Ewropeaidd.

Pynciau Cysylltiedig