Cwpan FA Lloegr: Fylde 1-0 Wrecsam

Cwpan FA Lloegr

Mae Wrecsam allan o Gwpan FA Lloegr ar ôl colli oddi cartref i AFC Fylde yn y bedwaredd rownd ragbrofol.

Fe dalodd Wrecsam yn ddrud am fethu cyfleoedd yn yr hanner cyntaf, wrth i Danny Rowe roi Fylde ar y blaen ar ôl 37 munud.

Cafodd Chris Holroyd, Scott Boden a Paul Rutherford gyfleoedd pellach i'r Dreigiau, ond doedden nhw'n methu â chanfod eu ffordd drwyddo.

Mae'n golygu mai Fylde, sydd yn 19eg yn y Gynghrair Genedlaethol, fydd yn mynd drwyddo i rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr.

Pynciau Cysylltiedig