Cyhoeddi manylion map newydd etholaethau Cymru

Ty'r Cyffredin
Image caption Bydd nifer yr ASau Cymreig yn gostwng i 29 o dan y cynigion newydd

Mae cynigion newydd i gael gwared â mwy na chwarter aelodau seneddol Cymru wedi eu cyhoeddi.

Pe bai newidiadau'r Comisiwn Ffiniau yn gweld golau dydd, rhain fyddai'r diwygiadau mwyaf i fap etholiadol Cymru ers degawdau.

Byddai nifer y seddi Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin yn gostwng o 40 i 29, gyda maint cyfartalog pob etholaeth yn cynyddu o tua 20,000 o bleidleiswyr.

Bydd cyfnod ymgynghori pellach o ddau fis arall cyn cyhoeddi'r cynigion terfynol ym Medi 2018.

Mae 19 o newidiadau i argymhellion cyntaf y comisiwn a gyhoeddwyd ym mis Medi 2016.

'Anghenion lleol'

Ymhlith yr argymhellion mwyaf dadleuol oedd rhannu tref Port Talbot rhwng dwy etholaeth.

Mae hyn bellach wedi newid gydag etholaeth arfaethedig Ogwr ac Aberafan yn cynnwys yr holl dref.

Newid arwyddocaol arall yw cynnwys Caernarfon yn etholaeth newydd Gwynedd, yn hytrach nac etholaeth Ynys Môn a Bangor.

Dywedodd Steve Halsall, ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, eu bod "wedi cynhyrchu set o gynigion sy'n cyfarfod â gofynion Deddf 2011".

Ychwanegodd: "Mae hefyd wedi rhoi sylw i ffactorau eraill sy'n berthnasol i Gymru ac wedi ceisio nodi'r cynigion sydd fwyaf addas i'r anghenion lleol yng Nghymru."

Image copyright Y Comisiwn Ffiniau
Image caption Map o gynigion diweddaraf y Comisiwn Ffiniau

Bydd ffiniau etholaethol yn newid ledled y DU, gan leihau maint Tŷ'r Cyffredin o 650 i 600 o seddi.

Ond bydd Cymru'n gweld y toriad cyfrannol mwyaf ymhlith pedair gwlad y DU.

Dywedodd y Comisiwn Ffiniau eu bod yn ceisio cynnal cysylltiadau cymunedol a ffiniau hawdd eu hadnabod gymaint ag y bo modd, heb roi sylw i ystyriaethau gwleidyddol.

Roedd lleihau nifer yr aelodau seneddol yn ymrwymiad ym maniffesto'r Ceidwadwyr.

Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi dweud y gallai arbed £50m dros bum mlynedd.

Straeon perthnasol