'Degawd' cyn gallu masnachu ym myd amaeth wedi Brexit

Trip swisdir
Image caption Bu'r ffermwyr o Gymru yn ymweld âc adran amaeth llywodraeth Y Swistir yn rhan o'u taith

Mae un o swyddogion Llywodraeth y Swistir wedi rhybuddio y gallai unrhyw gytundebau masnach wedi Brexit gymryd degawd i ddwyn ffrwyth.

Roedd Nina Maillard yn siarad gyda grŵp o ffermwyr o Gymru sydd wedi teithio i'r Swistir i ddysgu sut mae amaeth yn gweithio mewn gwlad sydd ddim yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'r 14 yn aelodau o'r Academi Amaeth, cynllun Llywodraeth Cymru i genfogi cenhedlaeth nesaf o arweinwyr gwledig, a phwrpas y daith ydy gweld a oes gwersi ar gyfer Cymru wrth i Brydain baratoi am Brexit.

Bu'r grŵp yn ymweld ac adran amaeth y Llyworaeth yn y brifddinas Bern, a hefyd fferm sy'n defnyddio arferion arbrofol.

Mewn neu allan?

Un o'r ffermwyr sydd ar y daith ydy Dyfrig Williams: "Er bo nhw (Y Swistir) ddim yn yr Undeb Ewropeaidd mae'n rhaid iddyn nhw dal sefyll i'r un rheolau fel petae'n nhw yn yr Undeb Ewropeaidd achos ma shwt gyment gwahanol math o agreements gyda nhw," meddai.

"Er mwyn gallu delio gyda'r gwledydd sydd yn yr Undeb, mae'n rhaid iddyn nhw sefyll i'r un rheolau. Felly mewn ffordd, 'so nhw'n siwr eu hunain os ydyn nhw mewn neu allan."

Image caption Mae Dyfrig Williams yn ffermio ger Aberystwyth

Dywedodd un arall o'r ffermwyr, Jim Ellis o Bwllheli: "Dwi'n meddwl y ffordd ma nhw'n sustainable allan o'r EU, yn fwy na sustainable, yn llewyrchus o'r argraff 'da ni'n ei gael. "

"Dwi'n meddwl mai'r ffordd mae'r economi'n rhedeg ydy'r peth ma nhw'n ei wneud orau yma," meddai, "a dyna pam bod nhw'n medru subsideisio, a bod o'n llewyrchus."

'Arafwch'

I glywed mwy am sut mae'r Swistir yn masnachu gyda'r Undeb, aeth y ffermwyr i gwrdd â swyddogion yr adran amaeth ffederal yn y brifddinas Bern.

Mae'r Swisdir yn talu arian tuag at brosiectau o fewn yr Undeb ac mae ganddi dros 100 o gytundebau masnach unigol er mwyn gwneud busnes gyda'r gwledydd sydd yn aelodau.

Ond dywedodd Nina Maillard - un o swyddogion masnach yr Adran Amaeth - nad oedd llunio'r cytundebau yn broses gyflym.

"Cymerodd ddeng mlynedd," meddai, "o ddechrau trafod ym 1992 hyd nes i'r cytundebau ddod yn weithredol yn 2002. Gallai fod yn debyg i Brydain yn sgil Brexit."

Image caption Dywedodd Rhys Griffiths o Gaernarfon y gallai Cymru ffynnu unwaith bydd hi allan o'r Undeb Ewropeaidd.

Ond nid pawb oedd ar y daith oedd yn gweld rhwystrau yn unig.

Tra ei fod yn cydnabod bod na gyfnod ansicr o'u blaenau, roedd Rhys Griffiths o Benisarwaun, Caernarfon yn credu bod rhaid bod yn bositif.

"Da' ni fel gwlad yng Nghymru, fel Prydain, mae gynnon ni lot i'w gynnig" meddai.

"Ma'n ffarmio ni o ansawdd da ofnadwy, wedyn mae'n saff o fod posib i ni ddelio gyda'r gwledydd eraill ma.

"S'dim isho i chi ofni (Brexit), ma rhaid i chi godi'ch pen yn uchel a dal i fynd rhywsut. Yn y diwedd bydd popeth yn iawn. O sbio ymlaen rhywfaint, fydd hi'n well allan arnon ni. "

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol