Disgwyl i George North fethu gemau prawf yr hydref

George North Image copyright Getty Images
Image caption Mae disgwyl i George North fod allan am dros chwe wythnos

Mae disgwyl i'r asgellwr George North fethu gemau Cymru dros yr hydref oherwydd anaf i'w ben-glin.

Digwyddodd yr anaf wrth iddo chwarae dros ei glwb, Northampton, ac mae disgwyl na fydd yn chwarae am chwech i wyth wythnos.

Mae amheuon am ffitrwydd Rhys Webb a Dan Baker yn ogystal.

Cafodd y ddau eu tynnu oddi ar y maes wrth i'w clwb, Y Gweilch, golli yn erbyn Clermont dros y penwythnos.

Mae Cymru yn chwarae yn erbyn Awstralia, Georgia, Seland Newydd a De Affrica yng Nghaerdydd yn y gyfres ym mis Tachwedd a Rhagfyr.

Pynciau Cysylltiedig