Cymorth i gwpl oedrannus yn dilyn lladrad storm Ophelia

Llai Image copyright Google

Mae cymuned wedi dechrau casglu arian gafodd ei ddwyn gan gwpl oedrannus yn ystod storm Ophelia.

Fe wnaeth lladron dargedu'r cwpl yn Llai ger Wrecsam nos Lun drwy honni eu bod yn swyddogion heddlu er mwyn mynd mewn i'r tŷ.

Mae'n debyg bod y lladron wedi dweud bod angen diffodd y cyflenwad dŵr yn ystod y storm.

Ar ôl iddyn nhw adael, sylwodd y cwpl bod swm "sylweddol" o arian ar goll, a bod yr unigolion wedi bod yn chwilio ar hyd y tŷ, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd Janet Osborne, sydd wedi dechrau apêl sydd wedi casglu £400 hyd yn hyn, ei bod yn drosedd "ffiaidd a chas".

Pynciau Cysylltiedig