Cymru i wynebu Panama mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd

cymru

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd y tîm cenedlaethol yn wynebu Panama mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd.

Fe fydd y gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Fawrth, 14 Tachwedd.

Dyma'r tro cyntaf i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd.

Mae Panama wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia, ar ôl gorffen yn drydydd yn eu grŵp rhagbrofol.

Methodd Cymru a chyrraedd y rowndiau terfynol yn dilyn colled i Weriniaeth Iwerddon.

Straeon perthnasol