Aur i'r pencampwr Jade Jones yn Grand Prix y Byd

Jade Jones Image copyright BBC Sport

Mae Jade Jones wedi ennill ei medal aur gyntaf yn 2017, ar ôl dod yn fuddugol yn Grand Prix Taekwondo y Byd yn Llundain.

Fe gurodd y pencampwr Olympaidd 24 oed o'r Fflint Ah-Reum Lee o Dde Corea o 31-14 yn rownd derfynol y dosbarth -57kg.

Hi ydy'r ail Gymraes i ennill medal aur yn y bencampwriaeth, ar ôl i Lauren Williams ennill ei dosbarth hi ddydd Gwener.

Dyma oedd y tro cyntaf i Jade Jones ymryson yn Llundain ers iddi ennill medal aur yno yng Ngemau Olympaidd 2012.

Cefnogaeth teulu a ffrindiau

Fe enillodd hi'r fedal efydd ym Mhencampwriaeth Taekwondo y byd yn gynharach eleni, ar ôl colli i Ah-Reum Lee yn y rownd gynderfynol.

Yn y Grand Prix diwethaf yn Morocco ym mis Medi, fe hawliodd hi'r fedal arian.

Dywedodd Jade Jones fod "curo'r ferch naeth fy nghuro i ym Mhencampwriaethau'r Byd, yn deimlad braf".

"Mae'n deimlad anhygoel jest cerdded o amgylch Llundain, ac ymweld â llefydd sy'n dod â'r holl atgofion yn ôl, a gweld fy nheulu a fy ffrindiau yn y gynulleidfa yn fy nghefnogi," meddai.

"Gallen i ddim colli gyda nhw'n fy ngwylio i."

Straeon perthnasol