Y Gynghrair Genedlaethol: AFC Fylde 2-0 Wrecsam

Jonny Smith Image copyright Rex Features
Image caption Yr asgellwr Jonny Smith oedd y seren i Fylde

Cafodd Wrecsam eu trechu yn AFC Fylde nos Fawrth wrth iddyn nhw golli am y tro cyntaf mewn 12 gêm yn y Gynghrair Genedlaethol.

Aeth y tîm cartref ar y blaen o fewn 10 munud, gyda Jonny Smith yn rhwydo ar ôl i'r golwr Chris Dunn ollwng ergyd o gic rydd.

Dyblwyd mantais Fylde gyda chwarter awr yn weddill wrth i Jack Muldoon guro ei ddyn ar yr asgell cyn ergydio heibio i Dunn.

Er y canlyniad, mae Wrecsam yn parhau yn y trydydd safle yn y gynghrair.