Wayne Pivac yn ymestyn ei gytundeb gyda'r Scarlets

Wayne Pivac Image copyright Huw Evans Agency

Mae'r Scarlets wedi cyhoeddi fod eu prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi ymestyn ei gytundeb gyda'r rhanbarth.

Mae'n golygu y bydd y gŵr o Seland Newydd yn aros wrth yr awenau yn Llanelli nes diwedd tymor 2019/20.

Cafodd Pivac ei benodi i'r rôl yn 2014 yn dilyn ymadawiad Simon Easterby.

Gorffennodd y tîm yn chweched a phumed yn y tabl yn ei ddau dymor cyntaf wrth y llyw, cyn ennill y gynghrair tymor diwethaf - y tro cyntaf i'r rhanbarth wneud hynny ers 2004.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r Scarlets ar frig Adran B y Pro14 ar hyn o bryd, ond maen nhw wedi colli eu dwy allan o ddwy yn Ewrop y tymor yma

Wrth gyhoeddi'r cytundeb newydd dywedodd Pivac nad oedd yn "gyfrinach fy mod i'n mwynhau fy amser yma".

"Y cam nesaf yw bod yn gystadleuol yn Ewrop yn gyson. Dwi'n meddwl fod y pythefnos diwethaf wedi dangos ein bod ni'n gystadleuol iawn pan 'dyn ni'n gallu dewis ein tîm cryfaf.

"Mae rhai o'n prif chwaraewyr ni wedi bod yn absennol. Dydyn ni ddim yn bell ohoni.

"Dwi nawr eisiau arwain y tîm i'r lefel nesaf wrth gadw'r rhan fwyaf o'r grŵp yma o chwaraewyr a chryfhau'r garfan ble mae angen, a dwi eisiau arwain y broses honno i'w therfyn."

Pynciau Cysylltiedig