Ymgais i gipio merch 14 yn Ystradgynlais, Powys

Wind Road, Ystradgynlais Image copyright Google
Image caption Ar Heol y Gwynt yn Ystradgynlais ddigwyddodd yr ymgais i gipio'r ferch

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymgais aflwyddiannus i gipio merch 14 oed ym Mhowys.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yn Ystradgynlais tua 16:40 ddydd Gwener.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys na chafodd y ferch ei hanafu a'i bod yn cael cefnogaeth swyddogion arbenigol.

Mae mwy o heddlu yn goruchwylio'r ardal ac mae'r ymchwiliad yn parhau.