Jamie Roberts yn dychwelyd i garfan rygbi Cymru

Jamie Roberts Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Mae Jamie Roberts wedi ennill 93 cap dros Gymru

Mae'r canolwr Jamie Roberts wedi ei alw nôl i garfan rygbi Cymru ar gyfer gemau'r hydref yn dilyn anaf i Jonathan Davies.

Doedd Roberts, 31, ddim wedi ei gynnwys yn y garfan wreiddiol er iddo arwain y tîm fel capten ar eu taith i Ynysoedd y De yn yr haf.

Roedd Davies wedi anafu ei ffêr yn y golled yn erbyn Awstralia a dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland nad oedd yn "edrych yn dda".

Mae prop Caerfaddon, Scott Andrews hefyd wedi ei alw i'r garfan wrth gefn gan fod amheuon dros ffitrwydd Samson Lee.

Bydd Cymru'n herio Georgia yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, cyn wynebu Seland Newydd a De Affrica yn eu gemau eraill.