ASau yn gwrthod cais i'r Cynulliad allu atal deddf Brexit

Hywel Williams
Image caption Hywel Williams AS yw Llefarydd Brexit Plaid Cymru

Mae ASau yn San Steffan wedi gwrthod cynnig gan Blaid Cymru, fyddai'n rhoi'r pŵer i'r Cynulliad atal deddfwriaeth allweddol am Brexit.

Byddai newid arfaethedig Plaid i Fesur Ymadael yr UE wedi golygu y byddai angen sêl bendith gwleidyddion yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i'r ddeddfwriaeth.

Mae gweinidogion yn San Steffan yn gobeithio cael cefnogaeth y sefydliadau datganoledig ond yn gallu bwrw ymlaen â'r gyfraith arfaethedig hebddo.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i fod â "phryderon difrifol" am y mesur, sydd yn cael ei drafod yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth a dydd Mercher.

'Dwyn pwerau'

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dadlau y byddai'r ddeddfwriaeth, sy'n bwriadu trosglwyddo deddfau'r UE yn ôl i'r DU, yn arwain at ddwyn pwerau oddi wrth y llywodraethau datganoledig.

Fel mae'n sefyll, fe fyddai Mesur Ymadael yr UE yn gweld cyfrifoldebau'r UE mewn meysydd polisi datganoledig fel amaethyddiaeth yn trosglwyddo i San Steffan yn gyntaf yn hytrach na throsglwyddo'n syth i Gaerdydd, Caeredin a Belfast.

Ar ôl cyfarfod Theresa May yn Stryd Downing fis diwethaf, dywedodd Mr Jones fod cynnydd wedi'i wneud ar y bil ond fod "angen i'r ddeddf newid fel bod y geiriau cynnes rydyn ni'n eu clywed yn cael eu hadlewyrchu yn y ddeddf, ac mae hynny'n golygu bod pwerau sydd i fod i ddod i Gymru yn cyrraedd".

Ychwanegodd nad oedd ei lywodraeth "mewn sefyllfa eto i gefnogi'r bil".

Wrth siarad cyn y bleidlais, dywedodd llefarydd Brexit Plaid Cymru, Hywel Williams AS, y byddai'n "anghyfrifol a pheryglus" pe bai Theresa May yn "ceisio gwthio'i Brexit trychinebus trwyddo, yn erbyn ewyllys tri o bedwar aelod y DU".

Ychwanegodd Mr Williams: "Nid yw hon yn ymgais i atal Brexit - mae'n ymgais i sicrhau bod gan Gymru a gwledydd eraill y DU lais. Dylai pob senedd genedlaethol fod yn rhan o'r broses hon, nid San Steffan yn unig."

'Pryderon mawr'

Bydd newidiadau gafodd eu hawgrymu gan lywodraethau Cymru a'r Alban fis diwethaf yn cael eu trafod gan fod y newidiadau arfaethedig wedi'u cyflwyno gan ASau SNP a Llafur Cymru.

Mae Theresa May eisoes wedi amlinellu cynlluniau i newid y Mesur Ymadael er mwyn ymrwymo'n ffurfiol i Brexit am 23:00 ddydd Gwener, 29 Mawrth 2019.

Rhybuddiodd y prif weinidog na fyddai'n "goddef" unrhyw ymgais i rwystro'r ddeddfwriaeth ond mae Keir Starmer, llefarydd Brexit Llafur, wedi honni bod ei blaid yn bwriadu ymuno â rhai o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr er mwyn newid y bil.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gennym bryderon mawr ynghylch y mesur hwn.

"Mae yna gwestiynau difrifol o hyd am sut mae San Steffan yn bwriadu anrhydeddu'r refferendwm wrth ddiogelu'r economi a pharchu datganoli a phwerau sefydledig Llywodraeth Cymru."

Mae BBC Cymru wedi gofyn am sylw gan adran Brexit Llywodraeth y DU.

Pynciau Cysylltiedig