Ar ôl dysgu Cymraeg fel ail iaith, nawr maen nhw'n athrawon!

Mae'n dipyn o gamp i fynd ati i ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn oedolyn, ond mae'n gamp anhygoel i fynd ymlaen wedyn i ddysgu'r iaith honno i eraill.

Ond ym maes dysgu Cymraeg i oedolion, mae nifer o straeon o bobl sydd wedi dod drwy'r drws fel disgyblion, ond sydd nawr yn gweithio fel tiwtoriaid.


Sarah Graham - Tiwtor Cymraeg i Oedolion ardal Ceredigion, Powys a Sir Gâr

Pan o'n i'n blentyn tua 10 oed yn Wolverhampton 'nes i ddod o hyd i hen lyfr Cymraeg. Dechreuais ddysgu geiriau ohono. Ond erbyn i mi fynd ati i ddysgu go iawn tair blynedd yn ôl y cyfan ro'n i'n ei gofio oedd 'Mae'r ddafad yn pori yn y cae.'

Mi fues i yn byw yn America am 10 mlynedd cyn symud yn ôl i Gymru. Roedd fy rhieni wedi symud erbyn hyn i fyw yn Nhrefyclo, ac mi wnaethon nhw ddarganfod bod teulu Mam yn hanu o'r ardal, sawl cenhedlaeth yn ôl. Mi wnaeth hynny danio fy mrwdfrydedd i ddysgu Cymraeg. Mae'n rhaid bod Cymreictod yn rhywbeth yn y gwaed.

Ar ôl cael gwersi dechreuol yn Nhrefyclo a Llandrindod, es i 'mlaen i wneud cwrs Safon Uwch yn Aberystwyth. Mi wnes i basio'r arholiad yn yr haf.

Dal i ddysgu

Nawr, dwi'n diwtor Cymraeg i Oedolion fy hun. 'Dwi'n deall y gramadeg a'r rheolau ond rwy'n dal i ddysgu. Dwi'n teimlo bod yn rhaid i mi fod ar fy ngorau i ddysgu fy nosbarth. Rwy'n dal i gael gwersi Cymraeg yn Aberystwyth.

Rwy' mor falch o fod yn diwtor, ac mor falch mod i'n medru helpu pobl gyda'r problemau gefais i a chynnig atebion ac anogaeth i bobl barhau pan mae pethau'n mynd yn anodd.

Mae'r braf sefyll o flaen dosbarth, er, mi roedd ychydig yn rhyfedd ar y cychwyn gan fy mod yn nabod rhai o'r bobl oedd yn eistedd o'm blaen. Ond erbyn hyn mae pawb yn derbyn y sefyllfa, a llawer wedi dweud fy mod i yn ysbrydoliaeth iddyn nhw wybod bod fi wedi llwyddo i ddysgu mor dda. Maen nhw'n teimlo fod gobaith iddyn nhw ddysgu i ryw fath o safon hefyd.


Image caption Suzanne (chwith) gyda Glyn Wise a dysgwraig y flwyddyn 2014, Joella Price

Suzanne Condon - Uwch Diwtor Canolfan Cymraeg i Oedolion y Fro

Ro'n i wir eisiau dysgu Cymraeg. Pan ro'n i yn Ysgol Gyfun Maesteg nes i wirioneddol drio. O'n i'n copïo pethau o'r bwrdd du ac yn defnyddio tâp i recordio pethau ac yn cynnal deialogau gyda fi fy hun.

Ond 'doedd dim byd yn aros mewn. Felly pan oedd hi'n amser dewis pynciau, doedd Cymraeg ddim yn un ohonyn nhw.

Ar ôl gadael ysgol mi wnes i gael gwersi Cymraeg, ond roedd nifer yn y dosbarth wedi dysgu'n dda. Roedden nhw'n gallu trafod beth ro'n nhw wedi bod yn ei wneud dros y penwythnos, do'n i ddim hyd yn oed wedi dechrau dysgu'r gorffennol!

Ar y pryd do'n i ddim yn gwybod beth oedd y broblem, felly ro'n i'n teimlo fy mod i'n fethiant ieithyddol a cheisio perswadio fy hun nad o'n i'n medru dysgu iaith newydd.

Tri chynnig i Gymraes

Mi fues i'n byw yn Hemel Hempstead cyn dod nôl i Gymru gyda fy ngŵr. Ro'n i'n awyddus i fy mhlentyn gael addysg Gymraeg. Awgrymodd fy ngŵr y byddai'n plentyn ond yn mynd i ysgol Gymraeg os y buaswn i yn dysgu'r iaith. Er fy mod i'n ofni methiant eto es i ddosbarthiadau,

Rwy'n meddwl fy mod i wedi llwyddo'r tro hwn gan fod gen i ddisgwyliadau isel iawn felly ro'n i wedi tynnu'r pwysau oddi ar fy ysgwyddau a sylwi fy mod i'n mwynhau'r gwersi.

Hefyd, ro'n i'n mynd i gylchoedd Ti a Fi gyda'r plant, ro'n i'n dechrau sgyrsiau byr, dysgu caneuon. Dechreuodd bethau lifo.

Ro'n i yn gwybod fod pethau'n mynd yn dda pan glywais fod fy mab wedi dweud wrth ei athrawes ysgol gyda balchder "Mae fy mam yn siarad Cymraeg fel chi nawr."

Yn 2005 mi wnes i ddechrau cwrs gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac erbyn hyn rwy'n uwch diwtor Cymraeg i Oedolion.

Rwy'n ffeindio bod fy mhrofiadau personol, a'r problemau ge's i yn holl bwysig i mi pan mae'n dod i ddeall problemau rhai sy'n dysgu yn fy nosbarth.

Mae'n gwneud hi'n haws i mi gydymdeimlo, a chynnig cyngor ar beth wnes i pan yn yr un sefyllfa, yn arbennig pan fod pobl yn dechrau digalonni.


Annalie Price - Swyddog Datblygu, Cymraeg ardal Taf-Elai a'r Gweithle

Pan ro'n i'n blentyn yn Nhonyrefail ro'n i 'chydig yn genfigennus o'r plant oedd yn mynd i'r ysgol Gymraeg. Ro'n i yn eitha hoffi gwisg ysgol Ysgol Llanhari!

Ro'n i'n genfigennus hefyd nad oedd yn rhaid iddyn nhw ddysgu'r iaith Gymraeg gan ei bod hi yn gallu datblygu'n naturiol. Ro'n i'n gorfod treial dysgu Cymraeg yn yr ysgol Saesneg ond ddim yn llwyddiannus iawn.

Daeth tro ar fyd pan o'n i'n disgwyl fy mhlentyn cyntaf a wnes i a fy ngŵr benderfynu y byddai'n plant yn cael addysg Gymraeg.

Y diwrnod pan ddechreuodd yr ail blentyn yn yr ysgol feithrin mi wnes i ddechrau ar gwrs Cymraeg dwys ym Maes yr Eglwys.

Ymroddiad ac amser

Ro'n i'n byw 10 milltir i ffwrdd ac rwy'n ddiolchgar iawn i rieni eraill yn y cyfnod hwnnw am nôl y plant o'r ysgol i mi. Mae problemau ymarferol fel hyn yn stopio rhai rhag medru dysgu'r iaith.

Mae'n gofyn am ymroddiad amser yn ogystal ag egni, ac i rai, mae'n siŵr o deimlo'n anodd. Dyw hi ddim yn syndod bod hanner y dosbarth rwy'n eu dysgu eleni wedi ymddeol gan bod ganddyn nhw fwy o amser.

Ar ôl treulio dwy flynedd yn cael gwersi ar y cwrs dwys roedd fy Nghymraeg yn ddigon da i fi wneud cais i wneud cwrs gradd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Wedi graddio bues i'n dysgu Cymraeg ail iaith mewn ysgol uwchradd, ac yn diwtor Cymraeg i Oedolion ambell i noson, ac wedyn ar ôl rhyw bedair blynedd, mi wnes i benderfynu dod yn diwtor llawn amser.

Rwy'n teimlo bod 'na fanteision bod yn ddysgwr sydd yn dysgu Cymraeg i eraill gan eich bod chi'n deall y problemau ac yn medru eu rhagweld drwy bersbectif rhywun sydd wedi profi'r problemau hynny.

Wrth gwrs, mae tiwtoriaid iaith gyntaf yn medru dod â phersbectif arall, a set o sgiliau gwahanol eto.

Felly yn fy marn i, yn ddelfrydol, dylai dysgwr gael gwersi gan diwtor sydd wedi dysgu ei hun yn ogystal â thiwtor iaith gyntaf. Dyna yw gorau dau fyd!

Pynciau Cysylltiedig