'Ddylai anableddau dysgu ddim fod yn rhwystr i gael gwaith'

Michael Davies and his parents
Image caption Mae mam Michael Davies am i gwmnïau roi cyfle i bobl fel ei mab

Mae elusen yn rhybuddio fod pobl ag anableddau dysgu yn cael eu rhwystro rhag cael gwaith yng Nghymru oherwydd camargraffiadau.

Mae elusen Mencap Cymru yn amcangyfrif fod gan 70,000 o bobl anableddau dysgu. Mae tua 14,000 mewn cysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol, ond dim ond 800 sy'n gweithio mewn swyddi llawn neu ran amser.

Mae gan Michael Davies, 22 o Gaerdydd, gyflwr Down's ac awtistiaeth. Yn ôl ei rieni mae angen i gwmnïau roi cyfle i bobl ifanc tebyg iddo fe.

Mae Mencap yn dweud bod rhwystrau mawr yn wynebu'r sawl sy'n dymuno gweithio.

Mae cyfarwyddwr yr elusen Wayne Crocker yn dweud bod nifer y rhai sydd ag anableddau dysgu mewn gwaith yng Nghymru ar gyfataledd yn "isel iawn" ac nad yw cwmnïau yn deall anableddau.

"Rhaid i ni addysgu cyflogwyr am y buddiannau sydd 'na o gyflogi rhywun ag anabledd dysgu," meddai.

Angen cyfle

Ar draws Cymru mae yna straeon o lwyddiant ond mae rhieni yn dweud eu bod yn pryderu na fydd eu plant fyth yn cael gwaith ac mae yna bryderon hefyd am effaith cwtogiadau gan gynghorau ar ofal eu plant.

Mae Sue Davies yn poeni na fydd pobl ifanc fel Michael, sydd ag anghenion cymhleth, yn cael cyfle i weithio o gwbl.

Mae Mr Davies sy'n byw yng ngogledd Caerdydd yn mynychu coleg preswyl ym Mhenybont ond mae ei rieni wedi cael llythyr yn dweud y bydd yn rhaid iddo adael ym Mehefin.

"Dwi 'di gweld petai pobl ifanc fel fy mab yn cael cyfle mi fydden nhw'n gallu gwneud llawer," meddai Ms Davies.

"Dyw pobl ddim yn sylweddoli faint maen nhw yn gallu gwneud - yn enwedig pobl sydd ag awtistiaeth. Os yw Michael yn cael ei ddysgu y ffordd gywir i wneud pethau - yna mi fydd gennych weithiwr dibynadwy yn y gweithle.

"Mae e angen cyfle - y cyfan ry'n yn ei ofyn yw i gymdeithas roi cyfle i'r bobl ifanc yma."

Image caption Yn Rhiwbeina cafodd caffi gwîb ei sefydlu sy'n staffio pobl ag anableddau dysgu

Y llynedd fe sefydlodd Clare Rowthorn a Laura Tilley Gaffi Cymunedol Miss Tilley yn Rhiwbeina yng Nghaerdydd ac mae'r caffi yn cyflogi pobl ifanc ag anableddau dysgu.

Mae'r caffi yn rhoi cyfraniad ariannol bychan i staff.

Nod ffrindiau wrth ei sefydlu oedd helpu gan eu bod yn bryderus am ddyfodol pobl ifanc ag anableddau dysgu wrth iddynt adael y coleg. Yn aml does ganddynt ddim i'w wneud ac mae'n anodd dod o hyd i gefnogaeth yn ystod y dydd.

Mae'r caffi wedi ehangu ac mae rhai o'r staff wedi mynd i weithio mewn tafarndai a phoptái lleol.

Mae rhai o fusnesau'r stryd fawr wedi ymrwymo i gynnig cyfleon i bobl ag anghenion dysgu gan gynnwys JoJo Maman Bebe, Sainsbury's, Costa Coffee a Greggs.

Image caption Mae Helen Pocock yn gweithio i gwmni Greggs ym Mhenarth ac mae'n dweud bod y swydd wedi rhoi hyder iddi

Mae Helen Pocock sydd â chyflwr Down's wedi gweithio yn Greggs ym Mhenarth ers chwe mis.

Dywedodd: "Mae'n fy ngwneud i'n hyderus ac mae'r arian yn mynd i fy nghyfrif banc, lle ddylai fynd."

Cafodd Ms Pocock y swydd drwy raglen arbennig a gafodd ei drefnu gan y Gymdeithas Down's Syndrome i gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i gyflogwyr a oedd yn fodlon rhoi gwaith i bobl â'r cyflwr.

Ar ran Greggs dywedodd un o'r cyfarwyddwyr Roisin Currie: "Mae 'na lot o dalent ar gael ymhlith pobl sydd ag anableddau dysgu ac mi allant gael effaith bositif ar fusnesau."