Ross Moriarty yn gadael Caerloyw'r i ymuno â'r Dreigiau

Ross Moriarty Image copyright Huw Evans picture agency

Fe fydd blaenwr rhyngwladol Cymru, Ross Moriarty yn gadael Caerloyw'r haf nesaf i ymuno â rhanbarth y Dreigiau.

Fe gyhoeddodd Caerloyw y newyddion mewn datganiad byr ddydd Llun.

Y grêd yw bod Moriarty wedi dod i gytundeb gyda'r Dreigiau er mwyn gallu parhau a'i yrfa gyda Chymru.

Ni fyddai'r chwaraewr 23 oed wedi bod yn gymwys i chwarae i Gymru o dan reolau newydd gan Undeb Rygbi Cymru petai wedi parhau â'i yrfa yn Lloegr.

Mae Moriarty, sydd wedi codi drwy rengoedd academi Caerloyw, wedi ennill 17 cap dros Gymru.