'Cymorth i ddysgwyr Cymraeg yn y gweithle ddim digon da'

Oes yna ddigon o gymorth i bobl sydd eisiau dysgu Cymraeg yn y gweithle? Nag oes yn ôl Dr Emily Garside.

Mae'r ymchwilydd 33 oed o Gaerdydd, sy'n ymddiddori ym myd y theatr, yn dweud ei bod hi'n anodd dod o hyd i waith ble mae'r Gymraeg yn hanfodol oherwydd bod cyflogwyr yn gwrthod rhoi cymorth iddi ddysgu'r iaith:

Yn yr wyth mlynedd ers imi symud 'nôl i Gymru, dim ond un cyflogwr sydd wedi cynnig gwersi Cymraeg i'r staff.

Roedd fy nghyflogwyr diwethaf - ble mae'r Gymraeg bellach yn hanfodol i'r mwyafrif o swyddi - wedi cael gwared ar wersi Cymraeg blynyddoedd yn ôl.

Fel dysgwr, rwy'n gwbl gefnogol o integreiddio'r Gymraeg i'r gweithle ac i'n cymdeithas. Ond mae'n rhaid i gyflogwyr gefnogi hyn.

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddechrau rhoi ymdrech wirioneddol tu ôl i'r Gymraeg i oedolion. Fel arall bydd Cymru yn colli llawer o'i thalent, a bydd llawer a fethodd cael addysg Gymraeg fel plentyn - fel fi - yn cael eu gorfodi unwaith eto i adael eu mamwlad oherwydd diffyg gwaith.

Mae gen i lawer i'w gynnig, llu o gymwysterau, BA, MA a PhD, bron i wyth mlynedd o brofiad proffesiynol gan gynnwys pedair fel athrawes.

Yr hyn sydd ddim gen i yw'r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl.

Yr hyn sydd gen i yw parodrwydd i ddysgu, ond mae 'na ddiffyg cyfleoedd i wneud hynny. Ac o ganlyniad, rwy'n gweld bod hyd yn oed y swyddi lefel mynediad (entry-level jobs) ar gau imi. Ac i mi, mae hyn yn cynrychioli culni gan y rheiny sy'n gyrru'r iaith Gymraeg.

Ydyn ni'n barod i gau allan gwybodaeth, profiad a sgiliau dim ond o achos diffyg cefnogaeth i'r rheiny sydd eisiau dysgu'r iaith?

Ydyn ni wir yn dweud wrth raddedigion ein bod ni ddim eisiau iddyn nhw aros pan nad ydyn nhw wedi cael yr amser na'r cyfle i ddysgu'r iaith eto?

Mae rhai siaradwyr Cymraeg yn ddiystyriol o'r galw yma am gefnogaeth ac yn dweud wrthym ni "jest i ddysgu fe". Ac oes, mae'n rhaid i'r parodrwydd fod yno - ond mae'n rhaid i'r cyfle fod yno hefyd.

Image caption Treuliodd Emily sawl blwyddyn yn gweithio yn Nottingham, Llundain a Montreal cyn dychwelyd i Gaerdydd

Y gwir amdani yw bod dysgu Cymraeg yn costio - amser ac arian. Oes, mae 'na apps a chyrsiau ar-lein ble gallwch chi ddysgu'r pethau sylfaenol, ac mae'r rhain yn wych - mae fy Nghymraeg i ar lafar wedi gwella'n ofnadwy o'u defnyddio.

Ond os ydyn ni'n trafod "Cymraeg busnes", y math ble gallwch chi wneud eich gwaith yn hyderus yn yr iaith, mae hynny'n cymryd amser, hyfforddiant proffesiynol a chymwysterau.

Mae hyn yn costio, ac yn cymryd amser. Felly mae'n sefyllfa o chicken and egg: methu cael swydd oherwydd diffyg Cymraeg, ond yr angen - i fod yn blaen - am gyflog a fyddai'n caniatáu chi i dalu amdano.

'Methiant' y system addysg

Ond yr hyn sydd wir angen ydy cymorth gan gyflogwyr sy'n barod i fuddsoddi mewn pobl sydd eisiau dysgu'r iaith.

Fel mae'n sefyll, mae'r problemau o amgylch Cymraeg yn y gweithle yn perthyn i ficrocosm o leiafrif sy'n gweld datblygiad yr iaith fel ymgais i "gau allan" y di-Gymraeg, yn hytrach na'u tynnu i mewn.

Be' 'dyn ni angen yw denu mwy o bobl i'r "byd" Cymraeg yn hytrach na chadw'r rhai sydd methu ei siarad allan.

Ac i'r cenedlaethau sydd wedi cael eu methu gan y system addysg, y gweithle yw'r ffordd i integreiddio'r Gymraeg yn ôl i'n bywydau.

Yr hyn hoffwn ei weld hefyd yw cydraddoldeb mewn sgiliau sydd eu hangen ar draws pob lefel.

Yn rhy aml rwy'n gweld hysbysebion swyddi ar lefel mynediad ble mae'r Gymraeg yn hanfodol ond o edrych yn sydyn ar y swyddi'n uwch i fyny, dyma ddatgelu cyfrinach fudur - dyw'r Gymraeg ddim yn hanfodol.

Os ydyn ni'n galw ar ein graddedigion, ein gweinyddwyr a phawb yn y canol i fod yn rhugl, yna dyliwn ni fod yn gwneud hynny'n ofynnol i'n prif weithredwyr hefyd.

Alla i awgrymu petawn ni'n gwneud hynny, byddai gwersi Cymraeg a chymorth i'r iaith ar gael yn fwy parod yn y gweithle mwyaf sydyn?