Dedfrydu dau ddyn o Fôn o achosi marwolaeth beiciwr

Robert Idris Llewellyn Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Bu farw Robert Idris Llewelyn o ardal Rhoscolyn, ar ôl cael ei daro gan fan Ford Transit

Mae dau ddyn sydd eisoes wedi pledio'n euog i farwolaeth beiciwr drwy yrru'n ddiofal ar Ynys Môn yn Ebrill 2016 wedi derbyn dedfryd o garchar wedi'i ohirio.

Bu farw Robert Idris Llewelyn, 70 oed o ardal Rhoscolyn, ar ôl cael ei daro gan fan Ford Transit ar y B5109 ychydig wedi 07:40 Nhrefor, Ynys Môn.

Mae Tomos Rhys Wheldon Williams, 30 oed o Lanfwrog, Caergybi a Kevin Graham Woods, 63 oed o Amlwch wedi'i dedfrydu i 12 mis yn y carchar, wedi'i ohirio am flwyddyn, a 250 awr o waith gwirfoddol yn y gymuned.

Mae'r ddau hefyd wedi'i gwahardd rhag gyrru am 16 mis.

'Gŵr cariadus'

Dywedodd PC Arwyn Phillips o Heddlu'r Gogledd: Mae'r modd y gwnaeth Woods a Williams yrru wedi gadael teulu heb ŵr cariadus, taid a ffrind, mae ein meddyliau i gyd gyda theulu Mr Llewelyn ar hyn o bryd.

"Yn yr achos yma roedd golwg y ddau wedi'i amharu gan yr haul am beth amser, felly hoffwn bwysleisio fod yr haul yn gallu amharu ar olwg a dylai gyrwyr gymryd y camau priodol, unai i arafu, neu stopio o fewn pellter ble mae modd gweld yn glir.

"Gyda mwy o feicwyr ar y ffordd, mae rhaid i yrwyr fod yn fwy ymwybodol o'u cyfrifoldebau a chymryd gofal ychwanegol," meddai.

Straeon perthnasol